´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cwis

Vaughan Roderick | 14:41, Dydd Mercher, 18 Gorffennaf 2007

Maen nhw nawr yn dweud bod cyhoeddi'r cabinet yn annhebyg heddiw. Fedrai ddim dweud wrthoch chi pa mor rhwystredig ydyn ni yma yn y Bae gan fod ein gwyliau yn cychwyn unwaith y ceir cyhoeddiad.

Mae 'na ambell i aelod cynulliad o gwmpas heddiw, rhai yn disgwyl am alwad ffôn gan Rhodri neu Ieuan, eraill yn gobeithio gweld Kylie sy'n ffilmio Doctor Who tafliad carreg o'r senedd, eraill eto yma i ymgymryd â'r gwaith o symud eu swyddfeydd o fewn Tŷ Crughywel.

Ceisio sicrhâi bod aelodau'r gwahanol bleidiau ar yr un coridorau a'i gilydd yw nod y symud, ond mae ambell i un wedi bod yn cwyno am eu swyddfeydd newydd gyda hwylustod wrth gyrraedd y pontydd sy'n arwain i'r senedd yn ffactor allweddol.

Unwaith yn rhagor y Democratiaid Rhyddfrydol sydd wedi colli mas. Awgrymodd un Tori creulon wrthyf y dylid gosod swyddfeydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar Ynys Echni, o ystyried maint eu dylanwad yn y trydydd cynulliad. Doniol, ond annheg.

Ta beth, mae'n bryd cael cwis gyda'r atebion i gyd yn ymwneud a'r Democratiaid Rhyddfrydol neu eu rhagflaenwyr.

1. Beth sy'n cysylltu Dad's Army a Rinka?

2. Pam a phryd y cafodd Caerdydd y llysenw "The city of dreadful knights" ?

3. Yn 1950 enillodd y Rhyddfrydwyr naw sedd. Sawl un ohonyn nhw oedd yng Nghymru?

4. Cyn ennill Ceredigion, ym mha etholaeth safodd Geraint Howells fel ymgeisydd Rhyddfrydol?

5. Fe gefnodd tri aelod seneddol o Gymru ar Lafur i ymuno a'r SDP. Enwch nhw.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 17:44 ar 18 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Daran:

    Gan fy mod yn osgoi gwaith ar hyn o bryd, dyma fy ymgais ar yr atebion…
    Mwynha dy wyliau (pan ddaw)

    1. Beth sy'n cysylltu Dad's Army a Rinka?
    John Le Mesurier yr actor; a John Le Mesurier, gwerthwr carpedi a chyhuddwyd o geisio ladd Norman Scott, y model adnabyddus a gollodd ei gi Rinka yn ystod helynt Jeremy Thorpe yn y 1970au

    2. Pam a phryd y cafodd Caerdydd y llysenw "The city of dreadful knights" ?
    Yn ystod sgandal gwerthu seddi yn Nhy’r Arglwyddi (yr un cyn hwn!) yn y 1920au

    3. Yn 1950 enillodd y Rhyddfrydwyr naw sedd. Sawl un ohonyn nhw oedd yng Nghymru?
    Roedd 5 mas o’r naw yng Nghymru – anhygoel!
    R Hopkin Morris – Caerfyrddin; ER Bowen – Sir Ceredigion; M Lloyd-George – Ynys Mon; E Clement Davies – Trefaldwyn; EO Roberts - Meirionnydd

    4. Cyn ennill Ceredigion, ym mha etholaeth safodd Geraint Howells fel ymgeisydd Rhyddfrydol?
    Brycheiniog a Maesyfed, 1970

    5. Fe gefnodd tri aelod seneddol o Gymru ar Lafur i ymuno a'r SDP. Enwch nhw.
    Ednyfed Hudson-Davies, Caerffili; Tom Ellis, Wrecsam; Jeffrey Thomas, Abertileri

  • 2. Am 20:03 ar 18 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Dewi:

    O'r gwaelod a heb "Google"

    5) Jeffrey Thoms
    Tom Elis
    Rhywun Hudson Davies

    4) Brycheiniog a Maesyfed

    3) 5

    2) Lloyd George yn gwerthu stwff ?

    1) Rinka oed y ci un achos Jeremy Thorpe (Dim yn cofio'r union gysylltiad) Roedd John Le Mesurier yn un o'r difynyddion - (Dim yr un dyn ond yn rhannu enw gyda actor Dad's army.

  • 3. Am 20:09 ar 18 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Y Parch. Dr. John Gillibrand:

    1. Mi gafodd John le Mesurier - ond dim yr actor o Dad's army - ei gyhuddo gyda Jeremy Thorpe o geisio lladd Norman Scott. Rinka oedd enw ci Norman Scott, a saethwyd gan Andrew Newton ym mis Hydref 1975 ar Exmoor.

    2. Adeg Lloyd George oherwydd y farchnad mewn anrhydeddau.

    3. Pump.

    4. Aberhonddu a Maeyfed.

    5. Jeffrey Thomas, Ednyfed Hudson Davies, Tom Ellis.

  • 4. Am 10:54 ar 19 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Helen:

    Cwestiwn 5 - roedd Gwynoro Jones hefyd yn un o'r rhai a gefnodd ar y Blaid Lafur.

  • 5. Am 16:18 ar 19 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Dewi:

    Dim yn aelod seneddol ar y pryd Helen ?

  • 6. Am 16:59 ar 19 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Helen:

    Eitha reit, Dewi - rwy newyd wirio hanes Gwynoro ac, yn wir, doedd e ddim yn AS yn unlle erbyn 1981!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.