´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Oes 'na bwynt?

Vaughan Roderick | 10:28, Dydd Mercher, 18 Gorffennaf 2007

Mae cynnig seneddol Chris Bryant wedi cyflawni'r hyn yr oedd e'n gobeithio. Cafodd grin dipyn o sylw yn y wasg ac ar y we ac yn y bôn dyna yw unig bwrpas cyflwyno "early day motion". Rhiw fath ar ddeiseb seneddol yw'r cynigion hyn, cynigion sydd byth yn cael eu trafod ond sy'n fodd o dynnu sylw at bwnc neu fod yn brawf o gryfder teimladau. Yn ôl swyddfa wybodaeth Tŷ’r Cyffredin mae'n costi dros chwe chan mil o bunnau'r flwyddyn i gyhoeddi'r cynigion yma heb gyfri'r gost olygyddol o'u paratoi. Ydy hynny'n ddefnydd call o arian cyhoeddus?

Mae'n hawdd amau hynny wrth ddarllen ambell i gynnig. Cymerwch hwn fel enghraifft.

"That this House recognises the 33 years of public service given to the people of Glasgow by Councillor Susan Baird CBE, JP, D. Univ, OSJ, DL, who represented the Parkhead and Braidfauld wards on Glasgow District Council and Glasgow City Council from 1974 until 2007; notes that she was a distinguished Lord Provost of the city from 1988 to 1992, hosted the Glasgow Garden Festival in 1988 and the European City of Culture in 1990 and in 1992 was awarded the St. Mungo Award for services to the city; and wishes her a long, happy and healthy retirement."

Dw i'n siŵr fod y Cyng. Baird yn berson i'w hedmygu. Ond, mewn gwirionedd, oedd angen cynnig seneddol yn ei chanmol a hithau eisoes yn "CBE, JP, D. Univ, OSJ, DL"?

Mae cynigion eraill, wrth reswm yn fwy gwerthfawr. Gellir pori trwy'r rhai cyfredol yn . Hyd yn oed os ydyn nhw ar adegau yn cael eu defnyddio at ddibenion pitw ar y cyfan mae pob arf sydd gan aelod meinciau cefn yn San Steffan yn rhywbeth i'w werthfawrogi.

Yn sicr mae Chris Bryant yn hoff ohnyn nhw. Yn y sesiwn bresennol mae e wedi cyflwyno deg o gynigion ei hun ac wedi arwyddo dros gant o rai eraill. Mae 'na system debyg yn y cynulliad lle gall aelodau cyflwyno "datganiadau barn ysgrifenedig". Gellir darllen y rheiny yn .

Fel yn San Steffan mae cynnwys y datganiadau barn yn amrywiol ond yr hyn sy'n drawiadol yw eu bod yn bethau cymharol brin hwyrach oherwydd bod aelodau cynulliad yn cael cymaint mwy o gyfleoedd i godi materion yn y siambr na'r aelodau yn Westminster.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 15:34 ar 18 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Marc Evans:

    Mae EDM's weithiau yn gallu arwain at drafodaeth ddwys a defnyddiol - fel arfer mae ton o anniddigrwydd neu ymgyrchu wedi codi cyn i'r cynnig gael ei gyflwyno; er enghraifft, roedd anniddigrwydd led led Prydain yn ddiweddar ynghylch effaith toriadau gan Defra ar gyllidebau y cyrff mae'n eu noddi a chafwyd mwy nag un EDM ac yna drafodaeth cynnig terfynu yn Neaudd Westminster a ddenodd nifer helaeth o Aelodau, a gweinidog i ymateb.
    Mae rhai datganiadau barn a gafodd eu cyflwyno yn y Cynulliad (yn enwedig rhai sydd wedi'u cefnogi gan drawsdoriad da o bob plaid) yn sicr yn ymddangos fel eu bod wedi sbarduno gweinidogion i ymateb i'r her. Mae Datganiadau Barn y Cynulliad yn tueddu i fod yn fwy cryno a chlir na rhai San Steffan yn yr hyn maent yn gofyn gan y Llywodraeth, er fe gafwyd digon o rai sy'n ceisio dwyn bri oddiar gampau tim neu chwaraewr trwy'u llongyfarch.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.