´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Hedd perffaith hedd

Vaughan Roderick | 17:48, Dydd Mercher, 11 Gorffennaf 2007

Mi ydyn ni'n bobol wareiddiedig yma yn ´óÏó´«Ã½ y bae. Nid trafod politics yn unig mae gweithwyr Uned Wleidyddol ´óÏó´«Ã½ Cymru. Big Brother, ffwtbol, Take That, mae gennym ni arbenigwyr ar bopeth yn fan hyn. Trafod barddoniaeth yr oeddem y prynhawn yma, yn fwyaf arbennig ffawd rhyfedd Hedd Wyn.

Taith Ieuan Wyn Jones i Ypres i goffau brwydr Passechendaele sbardunodd y sgwrs a'r her yma gan un aelod o'r uned "Ac eithrio 'Dim ond lleuad borffor...' oes unrhyw un yn gallu dyfynnu un gair o waith Hedd Wyn?" Och gwae ni! Roedd pawb wedi gweld y ffilm, y rhan fwyaf ohonom yn gyfarwydd â’r englynion coffa ond gwaith y dyn ei hun? Dim un englyn, un cwpled, un llinell hyd yn oed.

Mae'r rhyngrwyd yn gwneud hi'n hawdd cyweirio'r sefyllfa a gellir darllen gwaith "y bardd trwm dan bridd tramor" yn . Mae'n werth gwneud. Cefais flas arbennig y gerdd fach hon sy'n addas ar gyfer diwrnod cofio cyflafan Fflandrys.

NID oes gennym hawl ar y sêr,
Na'r lleuad hiraethus chwaith,
Na'r cwmwl o aur a ymylch
Yng nghanol y glesni maith.

Nid oes gennym hawl ar ddim byd
Ond ar yr hen ddaear wyw;
A honno syn anhrefn i gyd
Yng nghanol gogoniant Duw.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 18:03 ar 11 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Dewi:

    Troellog iawn yw llwybrau bywyd megis gwynt yr hwyr.
    Pa le cludir ninnau ganddynt Duw yn yn unig wyr.

    Gan Hedd Wyn ? - Mwy perthnasol pob dydd !

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.