´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

A chyda’r machlud yn ddi-ffael ...

Vaughan Roderick | 11:02, Dydd Iau, 12 Gorffennaf 2007

Wyth mlynedd oed yw'r cynulliad ond dyw hynny ddim yn golygu nad yw'r lle wedi magu ei draddodiadau ei hun. Un o rheiny yw'r sesiwn yfed flynyddol yn iard gwrw'r Eli Jenkins ar ôl sesiwn lawn ola’ y cynulliad cyn yr haf. Mae hwn yn draddodiad ardderchog gan ei fod yn rheol mai'r gwleidyddion sy'n talu am y ddiod a'r newyddiadurwyr sy'n ei slochian. Ar y cyfan mae'r gwleidyddion yn ddigon hael ond mi oedd wyneb Alun Cairns yn bictiwr ar ôl iddo sylweddoli ei fod wedi prynu diod i un o swyddogion y Blaid Lafur trwy gamgymeriad!

Dyw iard yr Eli ddim mor grand â Chatham House ond dw i'n tybio bod yr un rheolau mewn grym ynglŷn ag ail-adrodd straeon a glywir yno. Er hynny teg yw dweud, dw i'n meddwl, mai manylion y cabinet newydd oedd ar feddyliau pawb gyda mawr drafod pwy fyddai mewn a phwy fyddai mas o dan y drefn newydd.

Does gen i ddim unrhyw fath o "inside track" yn fan hyn ond mae 'na ambell i enw sy'n cael ei grybwyll yn gyson. Brian Gibbons a John Griffiths yw ddau weinidog Llafur sy'n cael ei henwi amlaf fel y rhai a allai wynebu'r fwyell. Rhodri Glyn Thomas a Jocelyn Davies yw'r ddau enw sy'n cael eu crybwyll fwyaf fel aelodau posib o'r cabinet.

Rhaid i mi ddweud, doeddwn i ddim yn sylweddoli tan neithiwr faint o ddrwgdeimlad sy'n parhau ymhlith aelodau Plaid Cymru tuag at y pedwar aelod wnaeth geisio dryllio'r enfys. Yng ngeiriau un aelod "Leanne yw Leanne ac mae'n bryd i Bethan a Nerys dyfu fyny ond mae ymddygiad Helen Mary yn anfaddeuol". Am y rheswm hynny y disgwyl gan rai yw na fydd un o berfformwyr cyhoeddus gorau'r blaid yn cael ei gwobrwyo wrth i'r llywodraeth newydd gael ei ffurfio.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 21:46 ar 12 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd syr wynff:

    Dylai'r beirniaid o fewn y Blaid fod yn dra ddiolchgar i'r pedair wnaeth wrthwynebu'r enfys yn gyhoeddus. Hebddyn nhw, byddai'r Blaid wedi mynd mewn i glymblaid efo Democratiaid Rhyddfrydol sy ddim yn arbennig o ddemocrataidd na rhyddfrydol a criw o Doriaid oedd jyst isio bod nol mewn grym.
    Byddai'r Enfys ddim wedi parhau tan y Dolig a bydde'r ddadl dros bwerau ychwanegol ar y back burner am ddegawd.
    Pwrpas Plaid Cymru yw ennill annibyniaeth i Gymru, nid trinkets.
    Mae'r chwith wedi deall hynny'n well na'r cenedlaetholwyr "diwylliannol", oedd yn barod i aberthu annibyniaeth am flas ar rym.

  • 2. Am 23:43 ar 12 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Dewi:

    Cytuno gyda Syr Wynff - realpolitic - buasai'n fendigedig i weld Jocelyn Davies yn y cabinet - Trecelyn yn rheoli Cymru ! Nesaf y byd !!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.