Lincs
Mae byd y blogs yn dawel. Mae hynny i ddisgwyl efallai ar drothwy Mis Awst. Dyma gasgliad eclectig o ddolenni i gadw ni i fynd.
Dim ond yn ddiweddar y des i ar draw . Aralleiriad o'r testament newydd i ddysgwyr a phobol ifanc yw'r safle. Fy hen gyfaill coleg Arfon Jones sy'n gyfrifol. Dw i'n deall y cymhellion yn iawn ond rwy'n fwy o ddyn William Morgan fy hun! Dyma flas o waith Arfon. Barnwch chi.
"Pan oeddwn i'n blentyn, roeddwn i'n siarad iaith plentyn, yn meddwl fel plentyn, a deall plentyn oedd gen i. Ond ers i mi dyfu鈥檔 oedolyn dw i wedi stopio ymddwyn fel plentyn. A dyna sut mae hi 鈥 dyn ni ond yn gweld adlewyrchiad ar hyn o bryd (fel edrych mewn drych metel); ond byddwn yn dod wyneb yn wyneb maes o law. Ychydig iawn dyn ni'n ei wybod ar hyn o bryd; ond bydda i鈥檔 cael gwybod y cwbl bryd hynny, yn union fel y mae Duw yn gwybod y cwbl amdana i. Ar hyn o bryd mae gynnoch chi dri peth sy鈥檔 aros: ffydd, gobaith a chariad. Ond y mwya ohonyn nhw ydy cariad."
Rhag eich cywilydd os nad oeddech yn gwybod mae o 1 Corinthiaid.13 y daw honna!
Dw i ddim am gymryd gwyliau yr haf yma ond dw i wedi penderfynu lle dw i am fynd nesaf. Bosnia. Ag eithrio efallai dinistrio cerfluniau Buddah Bamyan gan y Taliban a fu na fandaliaeth mwy torcalonnus erioed yn enw crefydd na dinistrio pont 鈥淪tari Most鈥 ym Mostar gan Catholigion eithafol? Nawr-wedi ei hadfer gan yr Undeb Ewropeaidd ac mae Bosnia wedi cychwyn . Bant a ni felly.
Wrth sgwennu am swydd newydd Rhuanedd Richards y dydd o'r blaen fe wnaeth hi daro fi faint o gyn-ddisgyblion Ysgol Rhydfelen sy'n gysylltiedig 芒 gwleidyddiaeth. Yno y cafodd Jon Owen Jones, Simon Thomas, Delyth Evans a Felix Aubel eu haddysg heb son am newyddiadurwyr fel Betsan Powys a Russel Issac. Dw i wedi cynnwys dolen i'r casgliad yma o o'r blaen ond roedd hynny peth amser yn 么l. Mae nhw'n werth eu gweld hyd yn oed os nad ydych yn gyn-ddisgybl.
SylwadauAnfon sylw
Gas gen i gywiro awdurdod fel ti Vaughan, ond dwi'n weddol siwr taw yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn Aberd芒r cafodd Simon Thomas ei addysg. Mae 'na dueddiad i ystyried bod pawb o genhedlaeth arbennig sy'n dod o'r Cymoedd ac yn siarad Cymraeg wedi dod trwy Ysgol Rhydfelen. Nid felly y bu. Daeth nifer ohonom trwy ysgolion eraill (Aberd芒r yn achos Simon, Castell Cyfarthfa yn f'achos i).
Mewn ffordd, mae'n drueni ynglyn ag adeiladau'r hen ysgol ond, ar y llaw arall, mae Rhydfelen wedi cael adeiladau newydd, addas sydd 芒 lle i dipyn mwy na 1,000 o blant, yn hytrach na rhyw 950, fel o'r blaen. A dweud y gwir, cefais dipyn o sioc tua Hydref 2002, pan ymwelais 芒'r hen Ysgol ar ddiwrnod agored, o weld cyflwr yr adeiladau, ac eithrio'r gampfa newydd a adeiladwyd tua chanol y 70au ar 么l y t芒n. Rhaid symud gyda'r oes, felly, a meddwl am y dyfodol. Yr unig drueni mawr ynglyn 芒'r datblygiad newydd oedd y penderfyniad i ddiddymu enw Rhydfelen sydd, dros y blynyddoedd, wedi dod yn gyfystyr ag arloesi a safon uchel. Fodd bynnag, yn 么l aderyn bach, dyw'r drws hwnnw ddim wedi cau eto, ac mae'n bosibl y caiff enw Rhydfelen ei adfer yn swyddogol rywbryd yn y dyfodol.
Byddai modd ychwanegu enwau eraill at gyn-ddisgyblion sydd wedi gwneud eu marc mewn meysydd heblaw gwleidyddiaeth, ond sydd wedi cyfrannu at hybu'r Gymraeg fel iaith hwyl a difyrrwch, megis Alun ap Brinli, Rhodri Williams (Bwrdd yr Iaith, nid Animal Hospital!), Siwan Jones, Si芒n Rivers, Si芒n Bassett, Lisa Palfrey, Gareth Potter, ac ati, a ati!!!
Un peth sy'n wir yw nad ydym i gyd wedi mynd at yr un blaid - rwyt ti eisoes wedi enwi Felix Aubel a Delyth Evans, ac roedd nifer o rai eraill 芒 bathodynnau coch y hytrach na gwyrdd, os cofiaf yn iawn (ddim cymaint o las nac o felyn).
Fues i'n Bosnia haf diwethaf Vaughan ac mae'n wych o le. Ges i fraw wrth fynd i mewn i Mostar ar y bws o Dubrovnik o weld gymaint o ddifrod sydd dal yno ar gyrion y dref ond mae'r bont a'r hen dref wedi eu hadfer yn hyfryd a mae'r bobl mor glen. Sarajevo hefyd yn wych o le, gymaint o hanes. Os cewch gyfle ewch ar y daith dywysiedig 'peace and reconciliation' (manylion yn y Lonely Planet) ble mae gwr lleol yn rhannu ei brofiadau o'r rhyfel. Yn bendant yn wlad dwi am fynd iddi eto.
Marc rwy't ti'n gywir dw i'n meddwl...fe wnai checio. Mae Betsan wedi f'atgoffa mae ei brawf Rhys aeth i Rhydfelen. Fe aeth hi Lanhari. Diolch byth i Helen fy achub trwy ychwanegu rhagor o enwau!Diolch am y cyngor Elwyn. Rwy'n edrych mlaen.
Castell Cyfarthfa eh Marc ! Sdim rhaid i ti swnio mor genfigenus !