´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Penblwydd hapus i Leo a'i fesur!

Vaughan Roderick | 15:27, Dydd Mawrth, 10 Gorffennaf 2007

Oherwydd ei rôl ym methiant cynlluniau datganoli 1979 a'i safiad cyson yn erbyn "gwastraffu" arian cyhoeddus ar yr Iaith Gymraeg dw i'n synhwyro na fyddai Leo Abse yn cael ei ystyried yn arwr gwleidyddol gan y rhan fwyaf o ddarllenwyr y blog yma.

Serch hynny fe wnaeth Leo gyflawni llawer, llawer mwy na'r rhan fwyaf o aelodau seneddol meinciau cefn. Prin yw'r aelodau sy'n llwyddo i lywio un mesur aelod preifat i'r llyfr statud - a dyw'r mesurau hynny gan amlaf ddim yn rhai dadleuol na hanesyddol.

Fe lwyddodd Leo Abse i gyflawni'r gamp dwywaith gan lwyddo i gyflwyno dwy fesur hynod bwysig a dadleuol. Y mesur cyntaf oedd y "Matrimonial Causes Act (1963)". Gwneud ysgariad yn haws oedd nod y mesur. Cyn hynny peth digon prin oedd ysgariad ym Mhrydain. Er da neu er drwg fe arweiniodd y mesur at ffrwydrad mewn ysgaru gyda'r nifer flynyddol o ysgariadau'n treblu rhwng 1963 a 1970.

Ddeugain mlynedd union yn ôl fe gyflawnodd Leo gamp hyd yn oed yn fwy dewr ac amhoblogaidd. Yn wyneb gwrthwynebiad chyrn y mwyafrif llethol o'r etholwyr ac ymgyrchu grymus gan yr eglwysi fe gyrhaeddodd y "Sexual Law Reform Act (1967)" y llyfr statud. Bwriad y mesur oedd cyfreithloni gweithredoedd hoyw rhwng oedolion (21+) mewn amgylchiadau preifat. Mae darllen y cofnod o’r dadleuon heddiw yn dipyn o ysgytwad gyda geiriau fel "disgusting," "loathsome" a "not real men" yn cael eu taflu o gwmpas Tŷ’r Cyffredin.

Mewn cyfweliad diweddar a'r fe ddisgrifiodd Leo y tactegau seneddol ddefnyddiwyd ganddo i sicrhâi llwyddiant y mesur. Y llwyddiant pwysicaf oedd darbwyllo'r Ysgrifennydd Cartref Roy Jenkins i warantu bod 'na ddigon o amser seneddol ar gyfer y mesur. Ar ôl gwneud hynny roedd yn rhaid defnyddio twyll i sicrhâi cefnogaeth aelodau seneddol. Doedd 'na ddim son am gariad na chydraddoldeb yn areithiau seneddol Leol Abse. Fe wnaeth e esbonio pam yn ei gyfweliad;

'The thrust of all the arguments we put to get it was, "Look, these people, these gays, poor gays, they can't have a wife, they can't have children, it's a terrible life. You are happy family men. You've got everything. Have some charity." Nobody knew better than I what bloody nonsense that was."

O'i ddarllen heddiw mae'r mesur yn un digon llipa ac mewn rhai ffyrdd yn chwerthinllyd o ryfedd. Roedd hi'n gyfreithlon i forwyr, er enghraifft, gael rhyw a theithwyr, neu a morwyr tramor ond dim a'i gilydd! Doedd na ddim amddiffyniad chwaeth rhag discrimineiddio gan gyflogwyr na darparwyr gwsanaethau. Yn wir roedd yn rhaid aros tan eleni am ddeddfwriaeth o'r fath.

Ond roedd mesur Leo yn un o fesurau rhyddfrydol mwyaf yr ugeinfed ganrif ac yn un o'r ffactorau sy'n sicrhai mai chwedegau'r ganrif ddiwethaf oedd un o'r degawdau pwysicaf yn ein hanes cymdeithasol. Hyd heddiw mae 'na wleidyddion sy'n diawlio'r degawd hwnnw gan honni bod popeth sydd o le ar ein cymdeithas ni heddiw yn deillio o gamgymeriadau'r cyfnod.

Beth bynnag am hynny, ac yntau yn dathlu ei ben-blwydd yn 90 eleni, gall Leo Abse frolio ei fod wedi gwneud bywyd yn haws ac yn hapusach i gannoedd o filoedd o bobol. Does dim llawer o wleidyddion yn gallu dweud hynny.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 16:56 ar 10 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Dewi:

    Diddorol - dyna drueni bod ei ddirmyg tuag at ei wlad ei hun yn dinistrio unrhyw deimladau positif tuag ato.

  • 2. Am 19:35 ar 10 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Arfon Jones:

    Cydfynd a Dewi, Prydeiniwr o sosialwr oedd Leo a ddim Cymro, mae lot o wleidyddion wedi gneud gwaith da ond mae ei le mewn hanes yn gael ei gofio am y pethau gwael mae o wedi ei neud e.e. Lyndon Johnson, Richard Nixon ddim ond i enwi dau. Fe gofiwn Leo Abse fel person a dirmyg tuag at Cymru a'n hiaith.

  • 3. Am 03:34 ar 11 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd O bell:

    Piti garw nad oedd yn bosibl i naill ai Leo Abse neu garedigion yr iaith weld y cysylltiad hawliau dynol rhyngddyn nhw.
    Anghofiwch yr enfys wleidyddol...beth am y gwir enfys sy'n cynrychioli'r sawl sy heb lais cryf...boed yn siaradwyr Cymraeg, pobl hoyw, crynwyr, sipsiwn ac yn y blaen.

    Enfys...nid coch, nid gwyrdd, nid coch, gwyn a glas!

  • 4. Am 13:28 ar 11 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Helen:

    Yr hyn sy'n nodedig yw bod 10 mlynedd wedi mynd heibio rhwng cyhoeddi adroddiad Wolfenden ym 1957 a'r ddeddfwriaeth yr oedd ei hangen i weithredu'r argymhellion. Mae gennyf gydymdeimlad mawr â dynion fel Oscar Wilde, Tchaikovsky, Liberace a Rock Hudson, a oedd yn teimlo rheidrwydd i briodi dim ond i gydymffurfio â normau'r cymdeithasau roeddent yn byw ynddynt ar y pryd.

    Mae'n rhyfedd meddwl bod gan Lefiticus y fath afael ar bobl tan yn gymharol ddiweddar, a byddai'n wir dweud bod mesur y Llew ym 1967 wedi braenaru'r tir ar gyfer pethau llawer mwy, megis partneriaethau sifil (tybed faint o dreth etifeddu y buasai'n rhaid i Peter Pears druan ei dalu ar ôl i Benjamin Britten farw?).

    Iawn, felly, rhoi clod hyd yn oed i'r Llew lle mae'n ddyledus, ond cytunaf â gosodiad Arfon Jones mai "Prydeiniwr o sosialwr" yw'r Llew. Rhaid cofio bod rhai tebyg iddo, Polly Toynbee, yn dal yn uchel eu cloch.


Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.