±ÊÔ³¢!
Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi canlyniadau arolwg barn diweddaraf cwmni Beaufort sydd yn awgrymu bod Llafur a Phlaid Cymru wedi ennill tir ers etholiadau'r cynulliad a bod y Torïaid a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi syrthio nôl rhywfaint. Dw i'n edmygydd o waith Beaufort ac mae'r sampl o fil yn hen ddigon i fod yn ddilys. Serch hynny mae angen dipyn o gyd-destun yn fan hyn.
O gymharu â'r canlyniadau go iawn mae Beaufort yn gyson wedi bod yn hael i Llafur a braidd yn llawdrwm ar y Ceidwadwyr. Nid gwendid yn y fethodoleg sy'n benna gyfrifol am hyn ond parodrwydd ac amharodrwydd cefnogwyr y ddwy blaid i droi mas i bleidleisio mewn etholiad go iawn. Ta beth. Dyma'r canlyniadau;
Llafur; 45.2%
Plaid Cymru; 24.3%
Ceidwadwyr; 12.6%
Dem Rhydd; 10.1%
Eraill; 7.8%
Etholiad 2007
Llafur; 32.2%
Plaid Cymru; 22.4%
Ceidwadwyr; 22.4%
Dem. Rhydd.; 14.8%
Mawrth 2007 (Beaufort)
Llafur; 42.1%
Plaid Cymru; 20%
Ceidwadwyr; 18.2%
Dem. Rhydd.: 12.5%
Eraill: 4.9%