Rhannu cyfrinachau
Mae hi fel y bedd yn y senedd. O'n cwmpas mae 'na ddigon o fwrlwm. Mae 'na Farchnad Ffermwyr wrth ymyl yr Eglwys Norwyeg, ffair ym Mharc Britania a GwÅ·l Fwyd yn y Basn Hirgrwn. Ond yn y senedd a ThÅ· Crughywel dim byd. Neb. Zilch.
Mae un rhifyn o "Dau o'r Bae" da ni i fynd ac wedyn fe fyddwn yn diffodd y trydan yn swyddfeydd y ´óÏó´«Ã½ tan yr Hydref. Oce, mae'r cabinet i ddod ond coda bach yw hwnna mewn gwirionedd. Mae'n bryd i ni felly geisio tynnu llinynnau'r misoedd diwethaf ynghyd gan rannu ambell i beth nad oeddwn yn gallu datgelu ar y pryd.
Fe wnawn ni gychwyn gyda stori oedd, yn fy marn i, yn drobwynt yn yr ymgyrch etholiadol ac yn allweddol i bopeth a ddigwyddodd wedyn. Yn y bôn hanfod y stori oedd bod Llafur yn ystyried clymbleidio a Phlaid Cymru pe bai'n methu ennill mwyafrif. Gwadwyd y stori yn ffyrnig gan Lafur gan ei bod yn tanseilio prif thema ei hymgyrch sef y peryg y byddai cynulliad crog yn arwain at lywodraeth yn cael ei harwain gan y Ceidwadwyr.
Mae sawl un wedi gofyn ers hynny o ble ddaeth y stori. Fedrai ddim datgelu'r ffynonellau i gyd ond, fel yn y rhan fwyaf o straeon o'r fath, roedd hi'n tarddu o fwy nac un person. Cywaith newyddiadurol oedd hi, mater o osod jig-so at ei gilydd.
Yr awgrym cyntaf oedd pan gafodd Rhuanedd wen ddireidus gan un aelod Llafur blaenllaw pan awgrymodd y gallai'r ddwy blaid ddod ynghyd. Ces i Betsan awgrym cellweirus gan berson Llafur arall nad y Democratiaid Rhyddfrydol oedd unig ddewis Llafur o fethu ffurfio llywodraeth. Roedd hynny'n ddigon i'n perswadio i ddechrau tyrchu.
Ces i wybod gan ffynhonnell ym Mharc Cathays bod y gwasanaeth sifil yn paratoi rhaglenni deddfwriaethol ar gyfer tair llywodraeth posib sef Llafur, Llafur/Dem. Rhydd. a Llafur/Plaid Cymru. Yna cawsom wybod gan rai o ffigyrau blaenllaw Plaid Cymru eu bod yn fodlon ystyried cydweithio a Rhodri Morgan mewn llywodraeth. Hwn, cofiwch, mewn cyfnod pan oedd y blaid yn ymgyrchu o gyda'r slogan "Rhowch gic i Lafur newydd".
Pan ofynnwyd yn breifat i ffigwr blaenllaw arall o Lafur Cymru gadarnhau fod coch/gwyrdd yn bosib fe wnaeth hynny. Nid camgymeriad oedd y cyfaddefiad. Roedd 'na ofn ar y pryd ymhlith rhai aelodau Llafur bod 'na beryg bod y tactegau Llafur yn peryglu eu rhyddid i weithredu ar ôl yr etholiad. Hynny yw bod Llafur trwy daranu’n gyson am y peryg o lywodraeth enfys yn gwneud y posibilrwydd hwnnw yn fwyfwy real. Roedd rhai o sylwadau Peter Hain arbennig yn peri pryder.
Yn hynny o beth, dw i o'r farn ei f/bod e/hi yn gywir. Dw i'n meddwl y byddai hi wedi bod yn anodd iawn i Lafur atgyfodi'r syniad o glymblaid coch/gwyrdd pe na bai'r posibilrwydd hynny wedi ei wyntyllu yn ystod yr ymgyrch.
SylwadauAnfon sylw
Stori ddiddorol iawn, ac fel y dywedi, hanes sy'n allweddol i'r cyfan sydd wedi digwydd ers hynny.
Yr hyn sydd lawn mor ddiddorol ydi edrych ar beth a arweiniodd at y trobwynt mawr yma yn y Blaid Lafur.
Yr ateb syml, wrth gwrs, ydi fod y syniad o glymblaid enfys o'r gwrthbleidiau wedi datblygu'n raddol i fod yn bosibilrwydd real. Ac mae hynny i'w briodoli i newid agwedd bur sylfaenol o fewn Plaid Cymru a'r Blaid Geidwadol fel ei gilydd.
Pryd y dechreuodd hyn? Mae'n amhosibl ei briodoli i unrhyw ddigwyddiad pendant, ond mae'n bur amlwg i mi fod y newid agwedd yn mynd yn ôl i tua 2004-2005 o leiaf. Dros y cyfnod yma, ymddengys fod gwahanol unigolion o fewn y ddwy blaid wedi dod i sylweddoli'n raddol - ac yn annibynnol ar ei gilydd - y byddai angen cydweithio rhwng y Blaid a'r Toriaid os oedd monopoli Llafur ar wleidyddiaeth Cymru i gael ei dorri. Dechreuodd rhai o ffigurau amlwg Plaid Cymru fel Dafydd Wigley a Cynog Dafis ddadlau'n agored dros y syniad o glymblaid enfys o haf 2005 ymlaen; erbyn hynny roedd elfen gref o gydweithio eisoes yn digwydd ymysg y gwrthbleidiau yn y Cynulliad i'r graddau fod llywodraeth Rhodri Morgan yn cael ei threchu'n weddol gyson. Law yn llaw â hyn roedd Toriaid amlwg yn gwneud synau tebyg, ac yn gwneud ymdrech neilltuol i feithrin delwedd mwy Cymreig i'w plaid.
O dipyn i beth felly torrwyd y tabw ynghylch y syniad o gydweithio rhwng Plaid Cymru a'r Toriaid. Does gen i ddim amheuaeth mai hwn oedd un o'r trobwyntiau mwyaf arwyddocaol yng ngwleidyddiaeth diweddar Cymru - lle gynt gallai Llafur ddibynnu ar wrthbleidiau rhanedig i ddal gafael ar rym, bellach roedd yn wynebu her wirioneddol, ac roedd yn rhaid iddi ymateb iddo. Peidied neb felly ag anghofio mai'r bygythiad gwirioneddol o lywodraeth enfys ydi'r unig beth sydd wedi gwneud llywodraeth goch-gwyrdd yn bosib.