Y Frwydr Nesaf - Caerfyrddin a Phenfro
Os ydy canlyniadau'r etholiad cyffredinol nesaf yn y canolbarth yn allweddol i ddyfodol y Democratiaid Rhyddfrydol mae'r hyn ddigwyddiff yn etholaethau Penfro a Shir Gar o'r pwys mwyaf i Blaid Cymru.
Mae'n anodd credu erbyn hyn fod etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr a'i rhagflaenydd Caerfyrddin ar un adeg yn dalcen caled i Blaid Cymru. Do, fe'i henillwyd hi yn 1966 a Hydref 1974 ond eithriadau oedd y buddugoliaethau hynny. Dros y degawd diwethaf mae Rhodri Glyn Thomas ac Adam Price wedi llwyddo i'w throi hi'n gadarnle gyda mwyafrifoedd tebyg i etholaethau Gwynedd. Ond os ydy Plaid Cymru o ddifri yn gobeithio bod yn blaid fwyaf Cymru mae'n rhaid iddi geisio ennill etholaethau eraill y ddwy sir.
Nid bod hi'n hawdd, ond Llanelli yw'r hawsaf o'r tair i'w chymryd. Yn etholiad 2005 enillodd Nia Griffith 46.5% o'r bleidlais. Pleidleisiodd 26.6% i'r Torïaid neu'r Democratiaid Rhyddfrydol. Yn etholiadau'r cynulliad fe lwyddodd Plaid Cymru i wasgu'r bleidlais honno i lawr i 13.8%. Pe bai hi'n gallu gwneud hynny mewn etholiad seneddol fe fyddai'r sedd o fewn ei gafael. Ond mae 'na ddau gwestiwn anodd- a fydd hi'n bosib gronni'r bleidlais wrth-Lafur yn sgil ffurfio'r glymblaid ym Mae Caerdydd ac ydy'r blaid yn fodlon gamblo'r sedd gynulliadol trwy ddwyn perswâd ar Helen Mary Jones i ymgeisio am y sedd seneddol?
Ymhellach i'r Gorllewin mae Preseli a Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro yn rasys dau geffyl ar lefel seneddol ond yn rasys tri cheffyl yn etholiadau'r cynulliad. Y nod i Blaid Cymru yn y ddwy sedd yn yr etholiad cyffredinol yw bod yn gystadleuol ac adeiladu ei threfniadaeth. Yn y cyfamser fe fydd y Ceidwadwyr yn ceisio eu gorau glas i dynhau eu gafael ar y sedd ogleddol a chipio'r un ddeheuol.
Fe fydd Llafur yn gorfod penderfynu p'un ai i fod yn ymosodol neu'n amddiffynnol. Chwaraeodd dewis gwael o ymgeisydd ei ran mewn colli Preseli. Gyda ymgeisydd gwell (Tamsin Dunwoody efallai?) gallai hon fod yn ras agos ond mae na ddadleuon cryf dros ganolbwyntio'r adnoddau ar gadw sedd Nick Ainger.
Er ei fod yn ddyn hyfryd ac yn aelod seneddol cydwybodol roedd gan Nick fwyafrif o lai na dwy fil y tro diwethaf ac mae'r drefniadaeth Geidwadol wedi ei thrawsnewid er gwell gan y newydd-ddyfodiaid y bu Syr Eric Howells mor sur yn eu cylch. Yn sgil eu buddugoliaeth yn 2007 mae hon yn darged amlwg i'r Torïaid.
SylwadauAnfon sylw
vaughan - sylwadau diddorol. Serch hynny dw i ddim yn siwr a yw dy ddadansoddiad yn hollol gywir. Mae'n wir i'r Toriaid/Lib/dem gael 26.6% yn 2005 OND yn etholiadau'r cynulliad 2003 dim ond 14.5 gawson nhw. Yn 2007 aeth pleidlais Lib/Dem lawr ychydig ond fe gynyddodd pleidlais y Toriaid gryn dipyn. Fe wnaethon ni dargedi y Toriaid a'r Lib/Dem gryn dipyn yn 2007 ond fe ddes i i'r casgliaid na ddaeth fawr ddim os o gwbwl drosodd i'r Blaid. Ydw i'n anghywir i ddod i'r casgliad hwn?
Dim o gwbwl. Y dasg i Blaid Cymru yw sicrhai bod etholiadau seneddol yn dilyn patrwm y cynulliad. Dyw hynny ddim yn hawdd. Ond mae edrych ar ystadegau Dwyrain Caerfyrdin yn ddiddorol yn y cyswllt yma. Buddugoliaeth cynulliad yn 1999, cipio'r sedd seneddol yn 2001 ac adeiladu ar hynny. Mewn rhai ffyrdd fe ddylai hi fod yn haws sicrhai pleidlais dactegol gan Geidwadwyr mewn etholiad seneddol..o allu targedi'n gywir.
Dim yn siwr pam dyle ni wario arian a treulio amser ar etholiadau San Steffan. Eisiau cael Elfyn ac Adam gartre i wneud gwaith defnyddiol! Sinn Fein a'r Parti Quebecois amdani !
Vaughan,
Pam bydden Dem Rhyd a Ceidwadol pleidleiswyr pleidleisio tactegol i Blaid pen maen nhw yn cyfuniad gyda Llafur?
(blin, dw i'n dysgu cymraeg)