大象传媒

Help / Cymorth
芦 Blaenorol | Hafan | Nesaf 禄

O'r Silff

Vaughan Roderick | 17:50, Dydd Llun, 13 Awst 2007

Yn draddodiadol Mis Awst yw'r mis mwyaf tawel o safbwynt newyddion yng Nghymru ac ar 么l yr Eisteddfod mae llenwi rhaglenni yn dipyn o dasg. Unrhyw eiliad nawr fe fydd y stori flynyddol am y 鈥渨eaver fish鈥 gwenwynig yn ymddangos oddiar arfordir Sir Benfro yn dechrau hawlio sylw. Pan mae'r pysgodyn bach yna yn y penawdau mae'r arwydd bendant fod na argyfwng diffyg newyddion.

Heddiw felly dw i am gop茂o un i syniadau O bryd i gilydd mae'n rhestri'r llyfrau y mae'n ei ddarllen. Gan fy mod wedi dod o hyd i ambell i gyfrol ddifyr o ganlyniad dw i wedi penderfynnu dilyn ei eisiampl. Dw i ddim am fanylu am gan fy mod wedi addo adolygiad i dudalennau'r cyngor llyfrau ond mae na ddau lyfr Saesneg hynod ddifyr yr hoffwn eu trafod.

Y cyntaf yw 鈥淕od's Terrorists鈥 gan Charles Allen sy'n taflu goleuni cwbwl newydd ar Al Qaeda a'r Taliban. Nod yr awdur yw dangos nad rhywbeth newydd yw'r cysylltiad rhwng llwythi Pathan y 鈥淣orth West Frontier鈥 a phiwritaniaeth canol-oesol Wahabiaid Arabia. Mae'r awdur yn adrodd hanes sy'n estyn yn 么l hyd at ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg a chyrchoedd aflwyddiannus Prydain yn erbyn yr Affganiaid. Gan ddefnyddio dogfennau swyddogol y Raj a llythyrau gan frodorion ac imperialwyr mae'n dylunio'r ffordd y daeth y Wahabiaid a'r Pathaniaid at ei gilydd i gesio Jihad yn erbyn moderniaeth a'r gorllewin. Mae Charles Allen yn dadlau'n gryf mae'r cymod hwnnw yn anad dim arall sydd wrth wraidd y derfysgaeth bresenol.

Yr ail lyfr dw i'n ail-ddarllen ar hyn o bryd yw 鈥淜ing Leopold's Ghost鈥 gan Adam Hochschild. Hanes ymerodraeth gwaedlyd Brenin y Belgiaid yn y Congo yw'r llyfr ond mae'n arbennig o ddiddorol o safbwynt Cymreig gan fod y ddau brif gymeriad yn dod o Glwyd. Mae'r darlun a gyflwynir o H.M Stanley, y gwr oedd yn bennaf gyfrifol am sefydlu'r drefedigaeth yn un hynod anffafriol. E.D Morrell o Benarl芒g, ar y llaw arall yw arwr y llyfr a mae'r hanes ynghylch y ffordd y trodd y clerc llongau i fod yn un o ddyngarwyr mwyaf ei ganrif yn un ysbrydoledig.

Yr hyn sy'n ddiddorol yw bod y ddau lyfr yn canfod gwreiddiau rhai o ryfeloedd mwyaf gwaedlyd ein cyfnod ni yn nwfn yng nghyfnod yr ymerodraethau Ewropeaidd gan awgrymu efallai nad ydym eto wedi llwyr ddianc o gysgod y cyfnod hwnnw.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 20:28 ar 13 Awst 2007, ysgrifennodd Arfon Jones:

    Vaughan - Dau lyfr arall sydd yn egluro agwedd yr UDA tuag at wledydd eraill a'i symudiad i'r dde ffasgaidd ar gefn crefydd yw 'Gods Politics' gan Jim Wallis ag 'American Fascists -The Christian Right and the War on America.' Gwerth ei darllen.

  • 2. Am 13:41 ar 14 Awst 2007, ysgrifennodd Dewi:

    Os am lyfr su'n egluro popeth yn hanes y byd mae'n rhaid darllen "Guns, Germs and Steel" gan Jared Diamond - rhyfeddol.
    Cofiant newydd Saunders yn dda hefyd.

  • 3. Am 12:44 ar 15 Awst 2007, ysgrifennodd Arfon Jones:

    Vaughan - Mae hi'n edrych fel fydd mis Awst ddim mor ddistaw am newyddion, gyda cyhoeddiad Huw Lewis heddiw yma...be ydy'r grwp 20:20 yma...llwyfan i Huw herio Carwyn Jones am arweinyddiaeth y blaid Lafur? Edrych ymlaen am dy 'take' ar be sy'n mynd ymlaen!!

Mwy o鈥檙 blog hwn鈥

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.