Wil Edwards
Bu farw Wil Edwards, aelod seneddol Meirionnydd o 1966 tan Chwefror 1974. Doeddwn i ddim yn nabod Wil yn dda ond ces i groeso digon cynnes yn ei gartref yn Llangollen ar ambell i achlysur a'i gael yn ddyn ffraeth a dymunol.
Roedd Wil yn perthyn i genhedlaeth ddiddorol o wleidyddion wnaeth ddod i'r amlwg yn ystod cyfnod pan oedd hi'n ymddangos bod Llafur ar fin disodli'r Rhyddfrydwyr fel plaid naturiol yr ardaloedd Cymraeg. Cledwyn Hughes oedd eu hysbrydoliaeth a phan ymunodd Megan Lloyd George a Llafur roedd hi'n ddealladwy bod gwleidyddion Cymreig uchelgeisiol yn barnu mai'r blaid honno oedd plaid y dyfodol.
Denwyd Elystan Morgan o rengoedd Plaid Cymru, ymunodd y cyn-weriniaethwr, Gwilym Prys Davies, hefyd. Gyda ffigyrau huawdl eraill fel Ednyfed Hudson Davies, Gwynoro Jones a Denzil Davies ym mlaen y gad gellid dadlau bod Llafur wedi denu y rhan fwyaf o wleidyddion Cymraeg mwyaf disglair eu cenhedlaeth.
Plaid Cymru, wrth gwrs oedd y drwg yn y caws. O fewn misoedd i ethol Wil ym Meirionnydd cynhaliwyd is-etholiad Caerfyrddin. Gwilym Prys oedd yr ymgeisydd Llafur aflwyddiannus. Fe gipiodd Llafur y sedd honno yn 么l yn 1970 ond roedd cyfle Llafur i sicrh芒i ei gafael ar y Cymry Cymraeg wedi ei golli. Trechwyd Wil Edwards gan Dafydd Elis Thomas. Collodd Elystan i Geraint Howells ac fe gymerodd Wyn Roberts le Ednyfed fel aelod Seneddol Conwy.
Yn etholiad cyffredinol 1966 enillodd Llafur ym M么n, Arfon, Meirionnydd, Ceredigion a Chaerfyrddin. Pan gyrhaeddodd y blaid benllanw tebyg yn 1997 enillwyd dim ond un o'r seddi hynny.
Mae 'na ddigonedd o Gymry Cymraeg, wrth gwrs, sy'n pleidleisio i Lafur, ond mae 'na lawer mwy sydd ddim yn gwneud ac mae'r dyddiau lle y gallai Llafur obeithio ennill mewn ardal fel Meirionnydd wedi hen ddiflannu.
Pam? Wel dyna yw 'r cwestiwn y bydd Cymdeithas Cledwyn yn ceisio ei ateb dros y misoedd nesa baratoi adroddiad ar ddyfodol y blaid ymysg y Cymry Cymraeg. Fe fynegwyd hanfod y broblem efallai ar 么l etholiad 1974 gan un o etholwyr Meirionnydd. Fe ddywedodd hyn; 鈥減roblem Llafur yw bod 'na o leiaf un George Thomas am bob Cledwyn Hughes.鈥
SylwadauAnfon sylw
Fe fynegwyd hanfod y broblem efallai ar 么l etholiad 1974 gan un o etholwyr Meirionnydd. Fe ddywedodd hyn; 鈥減roblem Llafur yw bod 'na o leiaf un George Thomas am bob Cledwyn Hughes.鈥
Gwir. Ond erbyn hyn gellir dweud fod na o leifa dau George Thomas am bob un Cledwyn! Cywir?
Cymdeithas Cledwyn yn cynnwys pennaeth Cwango swyddogol - rhyfedd.
Blog da Vaughan - heb glywed "Drwg yn y caws" o'r blaen - mynd i ddefnyddio'n aml o hyn ymlaen.
Cofio Phil Williams yn dweud y buasai wedi bod yn well i'r Blaid os oeddwn ni heb ennill seddi yn y Gymru Gymraeg cyn llwyddo yng Nhymru Gymreig - Nawr mae'n edrych yn debyg taw'r ddinas yw'r lle y gewn ni llwyddiant nesaf.
Will Edwards yn onest a diffuant. Trist i glywed.
Trasiedi ein hanes diweddar fel cenedl, o bosib, yw methiant Llafur i fod yn blaid wirioneddol Gymreig. Ond diolch byth bod llawer ohonom sy'n galw ein hunain yn sosialwyr Cymreig wedi canfod cartref yn rhengoedd Plaid Cymru. Ac rydym wedi dysgu llawer mwy am Gymru a'r byd wrth wneud hynny.
Vaughan
A oes modd dadlau bod y clymblaid Llaf/PC yn ail greu hegemoni wleidyddol Llafur/Chwith yn 1966 gyda'r gwahaniaeth bod PC erbyn hyn yn surrogate i Lafur? Dwi wedi teimlo ers dipyn bod PC yn yr ardaloedd Cymraeg yn rhyw fath o blaid Lafur gyda gwedd Cymraeg (Dim Llafur light ond Llafur gwyrdd) sydd erbyn hyn yn mwy apelgar i'r Cymry Cymraeg ac sydd yn mwy parod i paffio dros Gymru. Anodd gweld sut mae Llafur am ail ennill y seddau yma- mewn fordd beth yw'r pwynt os yw'r clymblaid Llaf/PC yn parhau. Yn y bon lleiafrif fach o cefnogwyr PC sydd yn credu mewn annibyniaeth.Ac yn y bon ychydig o wahaniaeth sydd rhwng wleidyddion pragmataidd PC a mwyafrif o ACau Llafur sydd eisieu gweld datganoli yn ffynnu. Rydym i gyd yn home rulers erbyn hyn!
Un cwestiwn sydd gennyf yw hyn - pe bai'r diweddar Cledwyn yn ddyn ifanc yn awr, pa blaid y byddai'n ymuno 芒 hi? Damcaniaeth lwyr, mi wn, ond dyn o'i oes a'i amser oedd Cledwyn, ac nid fe yn unig, ond llawer iawn o aelodau amlwg y Blaid Lafur yn yr 20fed ganrif (mae S.O. Davies yn enghraifft arall sy'n dod yn syth i'm cof). Wrth gwrs, roedd llawer o wrth-Gymreictod yn y Blaid Lafur ar y pryd, rhwng Jorji, Kinnock-a-dimai a'r Casgliad o Bont-ap-Hywel, a hynny, mi gredaf, o leiaf yn rhannol gyfrifol am dwf Plaid Cymru yn ystod y degawdau diwethaf.
Ers sefydlu'r Cynulliad, mae'r pleidiau Prydeinig yng Nghymru fel pe baent wedi ymgymryd 芒 hunaniaeth newydd - wedi datblygu i wynebu'r sefyllfa sydd ohoni, felly dwy ddim yn rhagweld y ceir yr un lefel o wrth-Gymreictod o fewn y Blaid Lafur, yn ei rhengoedd blaen, beth bynnag. Mae fel pe bai consensws wedi datblygu, o fewn y Blaid Lafur yng Nghymru, ynglyn 芒 Chymru a'r Gymraeg - rhywbeth a fuasai'n freuddwyd gwrach pan oedd S.O. yn fyw.
Boed hynny fel y bo, i fynd yn 么l at Gymdeithas Cledwyn ac ymgais Eluned i wneud y Blaid Lafur yn ddeniadol i'r ardaloedd Cymraeg, credaf fod Eluned wedi colli'r cwch - ers amser maith! Erbyn hyn, mae PC wedi magu gwreiddiau digon dwfn mewn llawer o'r ardaloedd Cymraeg i wrthsefyll unrhyw ymgais i wneud y Blaid Lafur yn ddeniadol - a hynny er gwaethaf y newid hunaniaeth Lafur sydd wedi digwydd ers sefydlu'r Cynulliad (math arall o Lafur Newydd???). Wrth reswm, ddylai neb laesu dwylo, ond pe bai Llafur yn mynd i adennill ei thir yn yr ardaloedd Cymraeg, byddai siaradwyr huawdl fel Betty Williams wedi llwyddo i ddarbwyllo digon o bobl erbyn hyn.
Oes, yn sicr, mae lle i Blaid Cymru a'r Blaid Lafur gydweithio yn y Cynulliad, wedi'r cwbl, mae digon o dir cyffredin rhyngom, ond nid yw hyn yn gyfystyr 芒 dweud bod Llafur yn mynd i adennill unrhyw dir yn yr ardaloedd 'gwyrdd'. Os rhywbeth, dylai PC anelu at gipio seddau fel Gorllewin Caerfyrddin - De Penfro, ynghyd 芒 Gogledd Penfro, erbyn yr etholiadau Cynulliadol nesaf, ac anelu hefyd at seddau fel y Rhondda, ac at ail-gipio Islwyn, gan ddangos mor hen ffasiwn yw syniadau'r K-a-D erbyn hyn!
A rhywbeth arall hefyd - yn hwyr neu'n hwyrach, pan fydd Cymru 芒'i Senedd lawn ei hun ac yn aelod cyflawn o'r Undeb Ewropeaidd ac o'r Cenhedloedd Unedig ..... y pryd hynny ..... bydd Plaid Cymru'n peidio 芒 bod, a hithau wedi cyrraedd ei nod. Bydd y prif bleidiau eraill hwythau'n ymgymryd 芒 gwedd hollol wahanol. Y pryd hynny, bydd aelodau presennol PC yn ymuno 芒'r pleidiau eraill hynny yn 么l eu gogwydd, ac mi dybiaf y bydd llawer o aelodau presennol PC a Llafur yn perthyn i'r un blaid, sef y Chwith Cymreig newydd.
Felly, mae unrhyw ymgais a fo gan Lafur ar y gweill i adennill hen dir nid yn unig yn rhy hwyr, ond yn mynd yn groes i'r llanw.
Ti a Betsan ar streic neu beth ?
A oes well i ni anfon 'search party' i Ddinbych y Pysgod i edrych am Betsan Powys ??