CF99 - yn fyw heno
Eluned Morgan (yr aelod seneddol ewropeaidd llafur) a'r ceidwadwr Guto Bebb fydd yn cadw cwmni i mi yn oriel y cynulliad heno. Wrth i Gordon Brown bacio'i fag i fynd i Lisbon i drafod y cytunded ewropeaidd fe fyddwn ni'n gofyn pa mor bendant ydi llinellau coch Prydain ac i ble aeth yr addewid yna gan Tony Blair i gynnal refferendwm.. ?
A hefyd fe fyddwn ni'n edrych ar brinder prentisiaethau (dipyn o lond ceg!) yng Nghymru, ac fe fydd Dewi Knight o'r Democratiaid Rhyddfrydol yn ymuno a ni i drafod pam bod pawb i weld yn ymddiswyddo o frig y blaid..
Oes oes ganddo chi gwestiwn i'r gwesteion heno, gadewch sylw ar y blog neu ebostiwch ni CF99@bbc.co.uk
CF99 yn fyw o'r senedd heno am 9.30 ar S4C.
SylwadauAnfon sylw
Roedd Guto Bebb yn edrych fel petai wedi llyncu llyffant tua hanner awr cyn y sioe. Y syndod mawr i mi oedd ei ddiffyg syniadau ar unrhyw bwnc, er ei barodrwydd i gondemio syniadau eraill. Rhaid teimlo trueni mawr dros ddyfodol poblogaeth Aberconwy.