Helo
Reit, fi nôl a do, diolch yn fawr, ces i amser da iawn 'da teulu'r dwyrain.
Mae'r llywodraeth wedi bod yn dathlu ei chan niwrnod y bore 'ma gan gyhoeddi mai cyn llysgennad Prydain yn y Cenhedloedd Unedig, Syr Emyr Jones Parry, fydd yn cadeirio'r confensiwn sydd i fod i liniaru'r ffriodd ar gyfer y refferendwm ar gynyddu pwerau'r cynulliad.
Heb os mae hwn yn benodiad da. Serch hynny dw i'n synnu bod y llywodraeth wedi gwneud y penodiad heb ymgynghori a'r gwrthbleidiau. Dw i ddim yn meddwl y bydd y Democratiaid Rhyddfrydol na'r Ceidwadwyr yn gwrthwynebu dewis Syr Emyr ond onid yw hi'n bwysig eu bod yn teimlo rhyw faint o berchnogaeth dros y confensiwn yn hytrach na chael eu trin fel gweision bach i chwarae eu rhan pan ddaw'r amser?
Yn y cyfamser fe wnaeth Rhodri'r honiad mwyaf rhyfedd yn ystod ei gynhadledd newyddion gan gyfeirio at adroddiad y swyddfa ystadegau bod poblogaeth Cymru ar gynnydd fel arwydd o lwyddiant y llywodraeth. Am y tro cyntaf mewn degawdau, meddai, mae na fwy o enedigaethau nac o farwolaethau yng Nghymru.
Beth yw'r esboniad am hyn tybed? Ydy'r ffaith bod Rhodri ac Ieuan wedi neidio i'r gwely da'i gilydd wedi sbarduno pobol ar hyd a lled Cymru i ddilyn eu hesiampl? Go brin.
SylwadauAnfon sylw
Mae'n bosib fod pob yn teimlo mwy o hyder yn y Gymru newydd, a bod hyn o leiaf yn rhannol gyfrifol am unrhyw gynnydd a fo yn y boblogaeth. Tybed, felly, a yw'r awdurdodau addysg wedi cymryd y ffactor hwn i ystyriaeth wrth greu cynlluniau a fyddai, o'u gwireddu, yn golygu cau nifer o ysgolion bach mewn ardaloedd gwledig? Efallai y dylent ail-edrych ar ragamcanion y boblogaeth yn awr, cyn ei bod yn rhy hwyr. Unwaith fod ysgol yn diflannu o'r gymuned, ddaw hi fyth yn ôl.