Llanast Llandudno
Mae gwleidyddion y gogledd yn hen gyfarwydd â pha mor sensitif yw etholwyr Aberconwy ynghylch eu gwasanaethau iechyd. Cymaint felly nes i Gareth Jones ddewis sefyll fel ymgeisydd "Plaid Cymru- Achubwch Ysbyty Llandudno" yn etholiad y cynulliad.
Mae'n newyddion drwg iawn i Gareth felly bod cefnogwyr Hosbis Dewi Sant yn y dref yn poeri gwaed ynghylch cyhoeddiad Llywodraeth y Cynulliad ynglŷn â chymorth i'r canolfannau hynny. Tra bod y sector yn gyffredinol yn ddiolchgar am y cymorth ychwanegol mae Hosbis Llandudno wedi colli allan. Mae'r rheswm am hynny'n gymhleth ond yn y bôn mae'r cymorth i'r canolfannau yn y dyfodol yn dibynnu ar y symiau a hawliwyd ganddynt yn y flwyddyn ariannol bresennol.
Canlyniad hynny yn ôl cefnogwyr Hosbis Llandudno yw bod y symiau wedi eu pennu nid ar sail angen ond ar sail pa mor llwyddiannus mae'r gwahanol ganolfannau wedi bod wrth godi arian yn lleol- gyda'r canolfannau mwyaf llwyddiannus yn cael eu cosbi.
Fy fydd hon yn gythraul o ffrae!
SylwadauAnfon sylw
Nid yw hyn yn llwyr heb gynsail - cofiaf yn yr hen ddyddiau mai colli arian oedd hanes rhai adrannau o fewn Llywodraeth Lleol am fod yn ddarbodus, yn hytrach na chael gwobr ar ddiwedd y dydd - hn dric, felly.