Taflu cerrig at DÅ· Gwydr
Mae gan ambell i aelod Llafur llysenw newydd i'r Western Mail. "Y "Daily Price" yw'r enw hwnnw- enw sy'n deillio o barodrwydd y papur i roi cyhoeddusrwydd i Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.
Mae 'na elfen o eiddigedd yn y gwatwar. Yn sicr mae gan Adam Price allu arbennig i sicrhâi sylw i'w safbwyntiau trwy fathu sylwadau bachog a dethol ei dargedau’n ofalus. Dim ond Lembit Opik sy'n gallu cystadlu ac Adam yn y frwydr am sylw'r wasg ac mae ei ddull yntau o sicrhâi sylw yn bur wahanol!
Swyddfa Cymru yw targed diweddaraf Adam. Yn ôl yr Aelod Seneddol dyw Cymru ddim yn cael gwerth ei harian gan drigolion Tŷ Gwydr ar roedd yr honiad hwnnw yn ddigon i sicrhâi cyhoeddusrwydd eang.
Gan adael y cyhuddiad ei hun i'r naill ochor mae'r cymhellion y tu ôl i'r ymosodiad yn ddiddorol. Gyda Llafur a Phlaid Cymru mewn clymblaid yng Nghaerdydd mae'n amlwg bod Adam Price am ddefnyddio ei lwyfan yn San Steffan i gadw dipyn o ddŵr clir rhwng y ddwy blaid ond mae 'na gymhelliad posib arall.
Dros y misoedd diwethaf, yn enwedig ers ffurfio'r glymblaid, mae'n amlwg bod tensiynau’n dechrau datblygu rhwng yr Ysgrifennydd Gwladol a llywodraeth Rhodri Morgan. Yr enghraifft ddiweddaraf o hynny oedd ymateb Ysgrifennydd Cymru i benodiad Syr Emyr Jones Parry fel cadeirydd y Confensiwn Cyfansoddiadol. Dyma oedd gan Peter Hain i ddweud mewn datganiad; "Emyr is a good friend of mine, we worked closely for many years at the Foreign Office. He is an excellent choice for Chair of the Convention. This is a positive step, but the MP and AM group have yet to convene to decide the composition of the convention."
Mae'r frawddeg olaf yn ddadlennol. Mae'n anodd credu nad geiriau o gerydd yw rhain. Er bod Peter a Syr Emyr yn gymaint o fêts mae'n amlwg bod yr ysgrifennydd yn anhapus tost bod Rhodri ac Ieuan wedi gwneud y penodiad cyn i'r aelodau seneddol gael dweud eu dweud.
Mae meithrin drwgdeimlad rhwng Llafur yn San Steffan a Bae Caerdydd yn rhan amlwg o strategaeth Plaid Cymru a chan fod Peter Hain yn gallu bod yn hynod groendenau ar brydiau gellir disgwyl rhagor o ymdrechion i dynnu blew o'i drwyn.