´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Clecs Colegol

Vaughan Roderick | 13:17, Dydd Mawrth, 27 Tachwedd 2007

Y prynhawn yma fe fydd cefnogwyr Coleg Ffederal Cymraeg yn picedu'r senedd i bwyso am ei fersiwn nhw o'r Coleg yn hytrach na'r fersiynau llai uchelgeisiol sydd wedi eu gwyntyllu gan rai o'r cyrff y tu fewn i'r sector. Yn fwyaf arbennig mae'r protestwyr yn flin ynghylch cynlluniau diweddaraf Addysg Uwch Cymru, y corff sy'n goruchwylio'r sector, gan nad ydynt, yn ôl Undebau'r Myfyrwyr a Chymdeithas yr Iaith, yn adlewyrchu'r ewyllys gwleidyddol i sefydlu'r Coleg.

Yn ogystal â phicedu fe fydd y protestwyr yn cyflwyno eu cynlluniau eu hun i'r llywodraeth yn swyddogol. Mae'r llywodraeth eisoes wedi gweld y ddogfen honno'n answyddogol ac yn ôl un ffynhonnell sy'n agos at y trafodaethau mae'n "ddarn ardderchog o waith". Deallaf mai model UCMC a Chymdeithas yr Iaith ar gyfer y Coleg yw'r model sy'n cael ei ffafrio gan y llywodraeth ac y bydd y cynllun swyddogol yn seiliedig ar yr hyn y mae'r protestwyr yn ystyried yn egwyddor sylfaenol sef bod y Coleg "yn gorff statudol gyda llif arian annibynnol a sylweddol".

Mae'r unig wahaniaeth pwysig rhwng cynlluniau’r protestwyr a rhai'r llywodraeth yw yn un ariannol. Gan fod y protestwyr yn dymuno gweld y coleg ffederal yn talu cyflogau darlithwyr maen nhw'n rhagweld y byddai angen cyllideb o ryw ugain miliwn o bunnau'r flwyddyn. Mae'r llywodraeth ar y llaw arall yn bwriadu i'r darlithwyr gael eu talu gan y colegau daearyddol presennol. Mae'n debyg mai rhyw bum miliwn o bunnau'r flwyddyn fydd ar gael i'r Coleg Ffederal felly.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 15:29 ar 27 Tachwedd 2007, ysgrifennodd onewales:

    mae'n syndod dy fod yn rhoi cymaint o hygrededd i bapur gan 'fyfyrwyr'. Fel arfer rwyt yn diystyrru unrhywbeth can berson sydd yn iau na 45 ac yn ei frandio yn syml ac yn sarhaus fel 'student politics'.

    da iawn i'r myfyrwyr am wneud ymchwil mor manwl, a gobeithiaf yn wir y bydd y Llywodraeth yn gweithredu model o Goleg Ffederal a fydd yn plesio pawb.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.