´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Grav

Vaughan Roderick | 13:27, Dydd Iau, 1 Tachwedd 2007

Does gen i fawr i ychwanegu at yr hyn sydd wedi ei ddweud am farwolaeth sydyn ac echrydus Ray Gravell. Fel pawb arall roeddwn yn hoff ar y naw ohono a'i bersonoliaeth gynnes. Roedd Ray wrth gwrs yn gwisgo ei wleidyddiaeth fel ei galon ar ei lewys. Cenedlaetholwr traddodiadol oedd e gyda'i ddaliadau wedi eu gwreiddio yn ei wladgarwch pybyr.

Nid bod hynny'n golygu ei fod yn naïf neu'n anwybodus. Pob tro yr oeddwn yn cwrdd roedd Ray yn awchu i glywed y clecs gwleidyddol diweddaraf. Roedd yn hynod o falch hefyd o'i gyfeillgarwch agos a Dick Spring pan oedd hwnnw'n ddirprwy ben ar lywodraeth Gweriniaeth Iwerddon ac roedd ganddo stôr o straeon difyr am wleidyddiaeth y wlad honno. Mae'n anodd dweud cymaint yw'r colled.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 06:28 ar 2 Tachwedd 2007, ysgrifennodd obell:

    Cawr o Gymro, cyd-weithiwr annwyl a chynnes.
    Darlledwr o fri...y gallu i gysylltu a phobl oedd ei gryfder. Hynny a'i hiwmor.

    Ray - mae'r byd yn dawelach ac yn fwy plaen ar dy ol.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.