´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Penblwydd Hapus?

Vaughan Roderick | 14:05, Dydd Iau, 1 Tachwedd 2007

Gan ein bod yn dathlu/coffau chwarter canrif S4C fe wnes i benderfynnu wylio tap o noson gyntaf y sianel neithiwr gan ryfeddu bod pawb (gan gynnwys fi) yn edrych mor gythreulig o ifanc. Dyw e ddim yn lot o beth i frolio yn ei gylch ond fi oedd y gohebydd cyntaf i ymddangos ar wasanaeth newyddion y sianel gan ohebu o gwest ym Mhontypwl.

Cafodd y gwasanaeth hwnnw digon o feirniadaeth yn y dyddiau cynnar wrth geisio ateb i broblem sy'n pery trafferth i'r cyfryngau Cymraeg hyd heddiw- p’un sydd orau canolbwyntio ar newyddion o Gymru neu geisio cynnwys talpiau o newyddion Prydeinig a thramor ond heb yr adnoddau digonol i gystadlu a gwasanaethau rhwydwaith y ´óÏó´«Ã½ a ITV.

O ddewis y llwybr cyntaf ceir cyhuddiadau o blwyfoldeb a diffyg uchelgais- o ddewis yr ail clywir lleisiau'n bloeddio am "gawl eildwym" neu'n mynnu y dylid edrych ar straeon "o bersbectif Cymreig"- galwad sy'n golygu’n amlach na pheidio gohebu o bersbectif cenedlaetholwyr Cymreig.

Newyddion cymysg gyda'r flaenoriaeth i straeon Cymreig yw'r rysáit presennol ar S4C a Radio Cymru. Mae gorwelion y gwasanaeth ar-lein ychydig yn gulach gan ganolbwyntio'n llwyr ar Gymru gydag ambell i eithriad i straeon ynghylch diwylliannau lleiafrifol ac ati.

Os deallaf yn iawn, bwriad "Y Byd" yw cynnig gwasanaeth mwy cynhwysfawr. Pob lwc iddyn nhw ond dyw'r dasg ddim yn hawdd. Gan mai ail bapur fydd "Y Byd" i lawer o'i ddarllenwyr go brin y bydd pobol yn fodlon ar gyfieithiadau o adroddiadau asiantaethau ond mae'n anhebyg y bydd gan y papur yr adnoddau i ddanfon gohebwyr i fwy na lond dwrn o'r straeon mwyaf y tu hwnt i ffiniau Cymru.

Yr ateb i'r broblem, dybiwn i, yw ceisio dod o hyd i straeon a allai fod o ddiddordeb i ddarllenwyr Cymraeg nad ydynt yn cael fawr o sylw ym mhapurau Llundain a Manceinion. Fe fyddai cynnwys straeon o'r Alban a'r Iwerddon yn enghreifftiau amlwg o'r fath yna o bolisi ond Duw a'n gwaredo rhag straeon di-ri am ddefaid yn peswch ym Mhatagonia!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 14:41 ar 1 Tachwedd 2007, ysgrifennodd Arfon Jones:

    Dwi'n gobeithio'n fawr fydd yna newyddion or Alban ar Iwerddon yn y Byd. Dwi wedi stopio prynu y Guardian am fod yna cyn lleiad ynddo am Gymru (newyddion diwethaf oedd ar y 6ed o Awst!!). Dwi ddim yn siwr sut mae'r Byd yn mynd i gael y newyddion...drwy asiantaethau mewn gwahanol wledydd neu beth.

  • 2. Am 11:45 ar 2 Tachwedd 2007, ysgrifennodd Dewi:

    Beth sy gen ti yn erbyn defaid Patagonia Vaughan...

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.