´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cyfyng-gyngor

Vaughan Roderick | 11:44, Dydd Iau, 13 Rhagfyr 2007

Dyma ni'n tynnu at y terfyn felly cyn belled ac mae 2007 o dan ystyriaeth. I'r rhan fwyaf o'n gwleidyddion heddiw yw'r diwrnod olaf yn y Bae eleni. Mae gan weinidogion... a newyddiadurwyr rhyw wythnos arall i fynd. Mae'n bryd meddwl am flwyddyn nesaf. Dw i newydd gychwyn ar y gwaith o baratoi ar gyfer etholiadau 2008. Os na newidiff Gordon Brown ei feddwl (eto!) mae hynny'n golygu etholiadau cyngor yn unig.

Rhain yw' etholiadau anoddaf i ohebu arnynt o'n safbwynt ni. Mae gornest sydd yn hynod ffyrnig a difyr mewn un ardal o ddim diddordeb o gwbwl i drigolion ardal arall ac mae canfod themâu cenedlaethol a'u cyflwyno mewn modd difyr yn gallu bod yn anodd.

Serch hynny gallai etholiadau 2008 fod yn rhai hanesyddol os ydy pethau'n parhau'n hunllefus i Lafur. Dyw e ddim yn gwbwl amhosib na fydd na'r un cyngor â mwyafrif Llafur yng Nghymru ar ôl Mis Mai nesaf. Cyn i neb feddwl fy mod wedi coll fy marblys gwleidyddol fe wnâi rhuthro i ddweud mai posibilrwydd ac nid tebygrwydd yw sefyllfa o'r fath a sôn am golli mwyafrif dros bawb ydw i yn fan hyn. Beth bynnag sy'n digwydd fe fydd Llafur yn parhau fel y blaid fwyaf ar sawl cyngor ac mewn grym mewn nifer ohonynt. Serch hynny mae'n ymddangos bod oes y "Kremlins" lleol oedd mor nodweddiadol o'r ugeinfed ganrif yn dirwyn i ben.

Mewn gwirionedd efallai bod yr oes honno eisoes yn perthyn i'r llyfrau hanes. Saith cyngor mwyafrifol Llafur sydd ar ôl yng Nghymru a dim ond tri chyngor sy 'na lle mae Llafur yn dominyddu fel oedd hi arfer arfer gwneud yn rhannau helaeth o'r wlad. Does ond angen i Lafur golli llond dwrn o seddi yn Sir Fflint, Casnewydd, Caerffili a Chastell-nedd Port Talbot i Lafur golli ei mwyafrifoedd a dyw'r tri chadarnle ddim mor gadarn â hynny. Does ond angen yngan enw "Blaenau Gwent" i wybod y gallai mwyafrif sylweddol ddiflannu fel gwlith y bore a chyda "Llais y Bobol" (y fersiwn deheuol gwreiddiol) yn weithgar drws nesaf hefyd dyw Torfaen ddim yn gwbwl diogel.

Mae hynny'n gadael Rhondda Cynon Taf, cyngor lle mae'r mwyafrif Llafur yn sylweddol ond un lle'r oedd Plaid Cymru yn rheoli rhwng 1999 a 2004. Gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol ac ymgeiswyr Annibynnol yn weithgar yn etholaeth Pontypridd gallai unrhyw adfywiad i Blaid Cymru yng Nghymoedd Rhondda a Chynon gosod y cyngor hwn yn y fantol hefyd.

Nid am y tro cyntaf gallai Blaenau Morgannwg chwarae rhan allweddol yn hanes y Mudiad Llafur

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.