Pwy sy'n bua'r llais?
Mae grŵp "Llais y Bobol" wedi bod yn achosi peth cynnwrf yn y Gogledd Orllewin ond fe allai na fod maen tramgwydd o'u blaenau. Bwriad y grŵp yw cofrestru fel plaid wleidyddol o dan yr enw "Lais y bobol- Voice of Gwynedd". Tybiaf fod y gwahaniaeth rhwng yr enwau Cymraeg a Saesneg yn arwydd bod yr aelodau'n sylweddoli fod 'na broblem bosib.
Y broblem honno wrth gwrs yw bod yr enw "People Voice" eisoes wedi ei gofrestru a ni ellir defnyddio'r enw hwnnw heb gydsyniad Dai Davies, Trish Law a'u dilynwyr. Hyd y gwn i does dim cysylltiad wedi bod rhwng y ddau grŵp.
Dyw Dai a Trish ddim wedi cofrestru’r enw Cymraeg "Llais y bobol" ond mae'r rheolau'n amwys ynghylch statws cyfieithiadau. Gallai holl beth bery gryn benbleth i'r comisiwn etholiadol. Dw i'n rhyw amau na fyddai gan Rebeliaid Gwent unrhyw wrthwynebiad i'r defnydd o'u henw. Y peth call i wneud byddai codi'r ffôn.