Concro'r Cynghorau
Parhau mae ymdrechion y pleidiau i sicrhâi o leiaf siâr o'r grym yn ein neuaddau sir.
Yng Nghaerfyrddin mae'r garfan annibynnol (ynghyd ac un Democrat Rhyddfrydol) wedi cyrraedd cytundeb â Llafur i barhau a'r glymblaid oedd yn rhedeg yr awdurdod cyn yr etholiad. Digon teg. Fe fydd Sir Gar yn un o'r llond dwrn o gynghorau Cymreig aelodau Llafur yn y cabined am y pedair blynedd nesaf.
"Why Change A Winning Team?" yw'r pennawd ar y datganiad newyddion sy'n cyhoeddi'r cytundeb. Dyw'r datganiad ddim yn esbonio beth yw union ystyr "winning team" yn y cyswllt hwn. Yn yr etholiad fe arosod y garfan Annibynnol yn ei hunfan ac fe gollodd Llafur hanner ei seddi. "Winning Team"? Barnwch chi.
Draw yng Ngheredigion gallai'r cyfan ddibynnu ar bleidlais y cadeirydd Odwyn Davies sy'n gynghorydd Plaid Cymru. Yn y bôn mae'n rhaid i'r cenedlaetholwyr sicrhâi cefnogaeth dau gynghorydd ychwanegol i gipio'r awenau. A fydd y garfan annibynnol yn parhau'n gadarn? Fe gawn weld.
Lan yng Ngwynedd mae'n debyg bod Plaid Cymru yn trafod a'r Democratiaid Rhyddfrydol. Fe fyddai cefnogaeth y garfan honno o bump cynghroydd yn ddigon, mwy neu lai, i sicrhâi mwyafrif.
Yng Nghaerffili mae'n ymddangos y gallai enfys hynod amryliw ymddangos gyda'r cabinet yn cynnwys cyn-ysgrifennydd Cymru, Ron Davies a'r Pleidiwr Lindsay Whittle â safodd yn erbyn Ron ym mhob un etholiad seneddol rhwng 1974 a 1997. Mae'n bosib y bydd Kevin Etheridge, cynghorydd annibynnol arall hefyd yno. Democrat Rhyddfrydol oedd Kevin. Fe adawodd y blaid ar ol iddi wrthod talu costau ei ymgyrch cynulliad yn Islwyn. Ym marn Kevin roedd y blaid yn ofni y gallai fe ennill y sedd etholaethol gan beryglu sedd restr Mike German. Fe fyddai gan gabinet Caerffili ambell bwyth i dalu yn ôl!