Sibrydion
Mae'r gêm gwyddbwyll wleidyddol wedi dechrau. Gyda dim ond llond dwrn o gynghorau Cymru yn gadarn yn nwylo un blaid neu grŵp mae'r llinellau ffon yn brysur wrth i'n cynghorwyr ymgiprys am reolaeth ein cynghorau. Mae 'na sibrydion di-ben-draw. Dyma rai ohonyn nhw ond peidiwch â chymryd dim byd yn ganiataol tan i gyfarfodydd cynta'r cynghorau newydd gael eu cynnal yn ystod yw wythnosau nesaf.
Mae 'na sawl Cyngor yng Nghymru lle'r oedd un blaid yn agos iawn at sicrhâi mwyafrif. Yn yr achosion hynny gallai'r broses o ffurfio clymblaid neu reolaeth leiafrifol fod yn weddol syml. Yng Nghaerdydd, er enghraifft, mae'n anodd dychmygu na fydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn sicrhâi rhyw fath o gytundeb a Phlaid Cymru. Gallai addo gwireddu cynlluniau i ddatblygu addysg Gymraeg fod yn allweddol yn fan hyn.
Y dasg i Blaid Cymru yng Ngheredigion a Gwynedd yw sicrhai cefnogaeth o leiaf llond dwrn o gynghorwyr annibynnol er mwyn sicrhai arweinyddiaeth y cynghorau. Mae'r pleidwyr yn obeithiol yn y ddwy sir. Yng Nghaerfyrddin Llafur, mae'n debyg, fydd yn penderfynu tynged y cyngor. Mae'n debyg bod y garfan annibynnol yn ceisio denu Llafur i ffurfio clymblaid unwaith yn rhagor tra bod Plaid Cymru yn gwyntyllu'r syniad o fwrdd amlbleidiol i redeg y cyngor.
Ond yn y rhan fwyaf o gynghorau Cymru mae'n ymddangos mai blwyddyn yr "enfys" yw 2009 gyda Llafur yn cael ei rhewi allan mewn cyfres o gynghorau. Yn Nhorfaen heno, er enghraifft, mae cynghorwyr y garfan annibynnol, Llais y Bobol, y Ceidwadwyr, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cwrdd i ffurfio clymblaid wrth Lafur. Yr un yw'r patrwm mewn llefydd fel Merthyr a Sir Flint.
Ar ddiwedd y dydd disgwylir i aelodau annibynnol fod yn rhan o'r garfan sy'n rheoli mewn hyd at bymtheg o gynghorau. Credir y bydd Plaid Cymru yn rhan o'r llywodraeth mewn rhyw ddeg o gynghorau a'r Ceidwadwyr mewn wyth neu naw. Fe fydd 'na Ddemocratiaid Rhyddfrydol ar fyrddau neu'n aelodau o gabinet o leiaf hanner dwsin o gynghorau. A Llafur? Llafur druan? Pedwar neu pum cyngor man pellaf. O Pa fodd y cwymp y cedyrn?