Sibrydion o'r Siambrau
Mae'n bryd dal lan a'r sibrydion diweddaraf o'r Neuaddau Sir. Pwy fydd yn rhedeg ein cynghorau dros y pedair blynedd nesaf? Cawn weld yn ystod y dyddiau nesaf.
Beth am gychwyn yn Nhorfaen- etholaeth yr Ysgrifennydd Gwladol Paul Murphy a Lynn Neagle yr aelod cynulliad Llafur oedd mwyaf uchel ei chloch ynghylch y cytundeb rhwng Llafur a Phlaid Cymru yn y Bae? Fe ddywedodd Ms Neagle hyn am y syniad o glymblaid coch-gwyrdd "We will be helping to deliver our communities into the hands of nationalist incompetents and separatists". Fe gollodd Llafur ei mwyafrif yn Nhorfaen bythefnos yn ôl ond yn groes i'r disgwyl gallai Llafur ddal ei gafael ar yr awenau gyda chefnogaeth llond dwrn o gynghorwyr eraill. A phwy sy'n flaenllaw ymhlith y cynghorwyr hynny? Neb llai na'r "nationalist incompetents and separatists". A fydd Lynn yn awgrymu y dylai ei phlaid leol wrthod cytundeb o'r fath?
Yng Nghaerffili does dim dwywaith mai'r "incompetents and separatists"- Plaid Cymru a Ron Davies mewn geiriau eraill fydd mewn grym. Mae'r trafodaethau'n parhau a dyw e hi ddim yn eglur eto a fydd na ddigon o gynghorwyr annibynnol yn cefnogi Plaid Cymru er mwyn sicrhâi rheolaeth fwyafrifol.
I'r Gogledd ac mae'n ymddangos na fydd enillion sylweddol y Ceidwadwyr yng Nghonwy yn ddigon i sicrhâi rheolaeth. Y disgwyl yw y bydd Plaid Cymru yn arwain clymblaid wrth Geidwadol. Mae 'na ddatblygiadau digon tebyg yn Sir Ddinbych gyda'r pleidiau eraill a'r aelodau annibynnol yn ceisio torri crib y Torïaid.
Yng Ngwynedd clymblaid rhwng Plaid Cymru, Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol sy'n debyg o reoli. Dyw e ddim yn eglur eto a fydd y glymblaid honno yn ceisio diddymu system bwrdd y cyngor a sefydlu cyfundrefn gabinet er mwyn (yng ngeiriau un o aelodau blaenllaw Plaid Cymru) "gadael yr idiots a'r eithafwyr i bydru ar feinciau'r gwrthbleidiau".