Air Alun a Ieuan Air
Mae'r cyn-weinidog wedi bod yn uchel ei gloch yn ei feirniadaeth o'r cynlluniau i ddatblygu Maes Awyr Llanbedr ger Harlech. Poeni mae Alun, sydd bellach yn gyfarwyddwr Cymdeithas Eryri, y bydd awyrennau ysgafn yn tarfu ar amgylchedd ac economi'r Parc Cenedlaethol.
Mae 'na rai wrth gwrs sy'n hoff o weld ein gwlad o'r awyr. Yn eu plith, mae'n siŵr, mae awduron "". Cyhoeddwyd y llyfr hwnnw'r llynedd gyda pharti lansio yn y senedd. Pa Aelod Cynulliad wnaeth noddi'r derbyniad? Oes angen dweud?
Yn y cyfamser mae'r Torïaid wedi awgrymu y dylid ail-enwi'r gwasanaeth awyr rhwng Caerdydd a'r Fali yn "Ieuan Air" ar ôl darganfod bod y dirprwy brif weinidog wedi ei defnyddio dros ddeugain o weithiau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Dw'n i ddim pa mor aml y mae Llywydd y Cynulliad wedi manteisio ar y gwasanaeth. Anaml, dybiwn i. Pe bai'r awyren yn galw yn Llanbedr ar y llaw arall...
SylwadauAnfon sylw
wel gan mai Ynys Môn ydi etholaeth IWJ, ac yn wir mai fo ydi'r unig aelod o'r cabinet sy'n cynrychioli etholaeth yn y gogledd, dydi hynny fawr o sioc! Ble ddiawl mae'r stori fan hyn?!
Braidd yn anheg cael pop at Ieuan.
1. Mae'r gwasanaeth awyr yn gwneud yn dda iawn, dyw e braidd yn dibynnu yn unig swydd ar deithiau'r Dirprwy Brif Weinidog i lwyddo.
2. Mae'n rhatach na'r tren, ac felly'n faich llai ar gostau'r Cynulliad.
3. Mae'n fwy gwyrdd na theithio ar ei hunan lan i Sir Fon yn ei gar.
Chwarae teg iddo fe am rhoi esiampl dda. Swnio fel grawnwyn sur gan ACau eraill i fi.
O ran Llanbedr, os ydy'r awyrenfa'n cadw gwaith yn yr ardal beth yw'r broblem? Mae'n nhw'n siarad am faes awyr fel petai chweched terminal i Heathrow sy'n cael ei grybwyll. Ydy ambell i awyren fach yn tarfu fwy ar lonyddwch Eryri na trenau bach Ffestiniog neu rheilffordd Cambria? Siarad am golli perspective.