Y lle i fod
Mae 'na sawl llwyth yr Eisteddfod, pobol y Pafiliwn, y Babell Lên, hyd yn oed y bobol hynny fel fy nghyd-olygydd Betsan Powys sy'n treilio eu diwrnod yn cerdded yn ôl ac ymlaen rhwng bws Cyw a phabell Sam Tan mewn ymdrech i gadw eu plant yn dawel.
Yn bersonol dw i'n aelod o'r llwyth lleiaf- selogion Pabell y Cymdeithasau, y babell fwyaf di-nod a mwyaf diddorol ar faes y Brifwyl. Yn fan hyn mae cynulleidfaoedd (bychan gan amlaf) yn cael y fraint o fod ymhlith y cyntaf i glywed am rai o'r syniadau ac ymgyrchoedd a allai fod ar wefusau pawb yn hwyr neu'n hwyrach.
Wrth gerdded draw i'r babell heddiw galwais heibio yn stondin Cymdeithas yr Iaith ar gyfer lansiad llyfr Gwion Lewis "". Dw i ddim wedi darllen y gyfrol eto ond yn ôl rheiny sydd wedi mae'n waith o bwys. Yn y dorf ar gyfer y lansiad roedd y Gweinidog Diwylliant newydd Alun Ffred Jones. Mae hynny'n arwydd o'r amserau efallai ond awgrymais wrth un o'i swyddogion nad oedd y Gweinidog eto yn deall ei rôl yn y steddfod. Nid ei le fe yw sefyll yn y dorf y tu fas i babell y Gymdeithas, ei rôl e yw cerdded o gwmpas y maes gyda Dafydd Morgan Lewis yn gwaeddi yn ei glust trwy fegaffon. Gwenodd y swyddog yn serchus ataf. "Arhosa tan flwyddyn nesaf!" meddai.
Ta beth draw ym Mhabell y Cymdeithasau roedd Simon Brooks yn traddodi darlith goffa Syr TH Parry-Williams ar hanes y Gymraeg yn ardal dociau Caerdydd. Gan mai dod i Gaerdydd i weithio yn y dociau y gwnaeth teulu Mam rhai cenedlaethau yn ôl roeddwn i eisiau gweld i ba raddau yr oedd sylwadau Simon yn cyd-fynd a'i hatgofion hi. Wrth gwrs Simon yw Simon ac roedd e'n benderfynol o fod yn brofoclyd. Cynhyrchodd ystadegau yn awgrymu bod y Gymraeg wedi goroesi yn well yn yr hen Tiger Bay aml-hiliol nac yn rhannau eraill o'r ddinas. Ei ddadl oedd oedd bod hi'n haws i leiafrif gadw ei hunaniaeth ymhlith llu o leiafrifoedd eraill nac yw hi fel un garfan fach yng nghanol grŵp mwyafrifol. Nododd bod y Cymry sydd wedi heidio i'r ddinas yn ystod y degawdau diwethaf hefyd, ar y cyfan, wedi dewis ymsefydlu yn yr ardaloedd mwyaf aml-ddiwylliannol, llefydd fel Treganna, Glanyrafon a'r Grenj. Tra bod hynny'n ffeithiol gywir dwi'n amau bod 'na ffactorau eraill ar waith yn fan hyn. Serch hynny mae 'na ddigon i gnoi cil drosti.
Cyfarfod wedi ei drefnu gan yr Ymgyrch Senedd i Gymru ddaeth nesaf gyda Elinor Burnham a Dylan Jones Evans yn dweud eu dweud. O'r ddwy araith un Dylan oedd y fwyaf sylweddol- dyna i chi syrpreis! Mae'n biti nad yw trafodion cyfarfodydd fel hwn yn cael eu cyhoeddi oherwydd roedd araith Dylan yn un anodd i grynhoi mewn ychydig frawddegau. Fe wnaeth un sylw trawiadol iawn sef nad oedd y ffaith bod gan Gymru lai o bwerau na rhan arall o'r Deyrnas Unedig yn unrhyw fath o ddadl dros gynyddu pwerau'r cynulliad. Roedd yn rhaid cyflwyno'r achos hwnnw ar sail ei rinweddau ei hun. Awgrymodd hefyd bod yr "enfys" o hyd yn agos at ei galon ac y byddai 'na lywodraeth ddi-Lafur yng Nghaerdydd yn hwyr neu'n hwyrach.
Cyn i hynny ddigwydd (os ddigwyddiff hi o gwbwl) mae'n debyg y bydd gan Gymru un Prif Weinidog Llafur arall a mwy na thebyg Carwyn Jones fydd hwnnw. Mae'n goblyn o beth mai dim ond rhyw bymtheg o bobol oedd yn y gynulleidfa i wrando ar araith feddylgar ganddo ynglŷn â dyfodol y Gymraeg. Hwn oedd eich cyfle i ddylanwadu ar y gwr â allai fod yn arwain Llywodraeth Cymru ymhen deunaw mis ac fe wnaethoch chi ei golli! Canolbwyntio ar ffawd y Gymraeg yn ardal y glo caled wnaeth Carwyn. Yn yr ardal hwnnw mae gwreiddiau hanner arall fy nheulu (fel mae'n digwydd fy nhad-cu wnaeth briodi taid a nain Carwyn) felly dwi'n rhannu ei bryderon ynglŷn â sefyllfa'r iaith yn Nyffryn Aman a Chwm Tawe. Wrth sgwrsio a fe ar ôl y ddarlith fe wnes i nodi'r eironi bod etholwyr yr ardaloedd hynny yn troi at Blaid Cymru ar yr union adeg y mae'n nhw'n cefni ar y Gymraeg. Cytunodd Carwyn gan gyfaddef ei fod yn defnyddio'r union ddadl honno yn erbyn rheiny yn y Blaid Lafur sy'n credu bod cefnogaeth i'r Gymraeg yn bwydo cenedlaetholdeb.
Dyna i chi flas ar un diwrnod ym Mhabell y Cymdeithasau. Pam na ddewch chi draw?