Llythyr o'r llaid
Oedd, roedd hi'n wlyb ar y Maes heddiw. Ond dewch mlaen, bois bach. Doedd hyn yn ddim byd! Mae nhw'n dal i ganfod gweddillion Eisteddfodwyr ar faes Abergwaun ac mae'r Urdd o hyd yn chwilio am Bafiliwn Castell Newydd Emlyn!
Am bob bran mae na dderyn du ac mae'r glaw yn ei gwneud hi'n llawer haws i drefnwyr cyfarfodydd a digwyddiadau dan do ddenu cynulleidfaoedd. Pymtheg o bobol oedd yn gwrando ar Carwyn Jones ddoe. Mae'n debyg bod deg gwaith y nifer yna wedi clywed darlith Alun Ffred Jones heddiw. Mewn gwirionedd doedd gan y Gweinidog Treftadaeth newydd fawr ddim byd o sylwedd i gyhoeddi ond roedd ei araith lengar gyda'i chyfeiriadau mynych at weithiau llenyddol Cymraeg a Chymreig yn amlwg yn apelio at y gynulleidfa. Wrth fynd heibio fe gododd bwynt diddorol. Gofynnodd pam fod cymaint o'r arian y mae'r llywodraeth yn rhoi i'r sector "wirfoddol" yn cael ei wario ar gyflogau. Cythraul o gwestiwn da.
Yn y cyfamser ym mhabell y Morning Star lansiwyd cyfieithiad newydd o'r "Maniffesto Gomiwnyddol". Rhywsut dw i'n amau a fydd 'na lawer o werthiant. Mae'n beth da, wrth gwrs, bod gwaith meddylwyr fel Marx ac Engels ar gael yn y Gymraeg a dw i'n edmygu pobol fel Gareth Miles a Robert Griffiths yn fawr am eu dyfalbarhad dros eu hachos. Serch hynny mae dyn yn teimlo weithiau eu bod nhw fel rhyw garfan fechan o Fedyddwyr Albanaidd yn nyfnderau cefn gwlad yn ceisio cadw drws y Capel ar agor ymhell y tu hwnt i'w amser! Gyda llaw, os ydych chi eisiau darllen cyfieithiad clasurol WJ Rees o'r Maniffesto gellir gwneud hynny yn .
Mae'n arwydd, efallai, o ba mor wael mae pethau i'r Blaid Lafur fod Cymdeithas Cledwyn wedi penderfynu gochel rhag gwleidyddiaeth yn ei sesiwn ym Mhabell y Cymdeithasau. Yn lle'r ddarlith neu'r ddadl draddodiadol cafwyd digwyddiad bach hyfryd- digwyddiad y dylai'r Eisteddfod ei hun wedi ei drefnu, o bosib. Gwahoddwyd plant o gefndiroedd ethnig sy'n mynychu ysgolion Cymraeg y cylch i gwrdd a'r Prif Weinidog a pherfformio i'r gynulleidfa. Roedd llai na haner y gynulleidfa honno yn bobol gwyn. Go brin bod hynny wedi digwydd yn y Brifwyl o'r blaen. Dydw i ddim yn ddyn mawr am wrando ar blant bach yn canu Bili Broga a Sali Mali ond gallaf faddau am unwaith!
SylwadauAnfon sylw
Wel, o leiaf mae'n well cael cyfieithiad y Maniffesto nag unrhyw beth gan Karl Rove.
Cwestiwn gwych...lle mae arian y sector wirfoddol yn mynd? Yn arbennig arian Cymunedau Gyntaf...dwi rioed wedi gweld gymaint o arian yn cael ei wario ar gyflogau a gweinyddiaeth. Be sy angen ydy ymchwilad trylwyr gan y Swyddfa Archwylio Gymreig. Neith hyn ddigwydd, na neith siwr, mae gan IWJ fel y Gweinidog cyfrifol ormod o ofn be neith yr archwiliad ei ddarganfod, heb son am bechu yn erbyn ei ffrindiau newydd Llafur yn y glymblaid sydd yn credu gymaint yn Cymunedau Gyntaf ar gwellianau mae nhw'n neud yn ein hardaloedd difreintiedig...lol botas!!
Est ti i sesiwn Golwg? Buasai newyddion am hynny yn ddiddorol..
Gyda llaw - Heb gael cwis ers achau Vaughan......
Rhaid dy ganmol Vaughan am y gymhariaeth yna parthed y Mri Miles a Griffiths yn brwydro i hyrwyddo catecism ffydd y comiwnyddion - y fath ddrygioni ogleisiol ar dy ran.
A chwarae teg i ti am ganmol canu'r plantos yn y cyfarfod aml-ddiwylliannol .... ydy mae'n byd ni yn newid a da gweld lle teilwng i Geidwadwyr Cymru ar y maes. Gobeithio y gelli di berswadio yr Athro Dylan i gyhoeddi ei ddarlith ar y we i ni gyd gael pori drwyddi.
Gyda llaw mae'n rhyfedd nad oes unrhyw gyfeiriad at Rhodri G+T yn dy gyfraniad - does bosib ei fod wedi cilio o'r ffurfafen wleidyddol eisioes!