Ambell i beth
Cymerais i ddiwrnod bant o'r gwaith ddoe er mwyn gwylio cynhyrchiad yr RSC o Hamlet yn Stratford. Oes, mae gen i ddiddordebau y tu hwnt i wleidyddiaeth! Peidiwch a becso. Dydw i ddim am gynnig adolygiad nac ychwaith tynnu cymhariaeth rhwng Tywysog Denmarc a Gordon Brown na Polonius ac ambell i wleidydd yn y cynulliad o ran hynny!
Mae'r cynhyrchiad yn cynnwys un newid dadleuol i'r ddrama. Yn hytrach na'r geiriau arferol ceir rhain "There are more things in Heaven and Earth, Horatio, than are dreamt of in our philosophy". Un gair (un llythyren mewn gwirionedd) sydd wedi newid "our" yn lle "your"- newid bach sy'n creu newid sylfaenol yn ystyr yr olygfa- ac yn wir y ddrama gyfan.
Dyw'r naill fersiwn na'r llall yn "gywir". Mae'r ddwy i'w canfod yn y copïau cynnar o'r ddrama. Serch hynny mae'n ein hatgoffa o bwysigrwydd dewis ein geiriau'n ofalus.
O gofio hynny pwy ar y ddaear yn swyddfa wasg y cynulliad sgwennodd y datganiad canlynol "One of the most comprehensive surveys undertaken in Wales to gauge public understanding of the Principality's political landscape has shown....". "Principality"! Och, gwae ni... a hynny ym mrawddeg gyntaf datganiad newyddion! Mae'r fersiwn Gymraeg yn gallach. Cewch wybod, gyda llaw beth sydd wedi ei ganfod ddydd Llun.
Ond nid y swyddog i'r wasg oedd yn gyfrifol am y frawddeg honno sy'n ennill y wobr am benderfyniad mwyaf rhyfedd yr wythnos. Draw yn Kentucky mae Ieuan Wyn Jones wedi cwrdd â Muhammad Ali ar gyrion Cwpan Ryder gan gyflwyno anrheg arbennig iddo o Gymru. Beth oedd yr anrheg? Grog. Grog o Muhammad Ali. Grog. Does gen i ddim o'r geiriau.
SylwadauAnfon sylw
Ie, y defnydd o 'Principality' - un o'm cas bethau inne hefyd ond onid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn 'euog' o'i ddefnyddio ar adegau?