´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Chwalfa

Vaughan Roderick | 13:00, Dydd Mawrth, 23 Medi 2008

Fel y rhan fwyaf ohonom, dw i'n amau, dw i'n ei chael hi'n anodd deall maint y problemau economaidd sy'n ein bygwth ar hyn o bryd. Heb os mae'r ffigyrau yn arswydus a bron yn ormod i'w dirnad. Cymerwch un ystadegyn bach fel enghraifft. Mae dyled llywodraeth yr Unol Daleithiau bellach yn $3,278 am bob un person yn y wlad. Mae'r cyfanswm yn ddeg gwaith yr hyn mae'r wlad yn gwario ar addysg ac mae hynny cyn ychwanegu'r $700,000,000,000 y mae'r Arlywydd Bush yn bwriadu gwario ar achub y banciau.

Roedd hi'n drawiadol bod Rhodri Morgan ac Ieuan Wyn Jones wedi dewis agor cynhadledd newyddion heddiw trwy son am helyntion economi America a'r effaith posib ar bawb ohonom. Efallai bod eu taith i Kentucky wedi tanlinellu maint y peryglon yn eu meddyliau.

Roedd Rhodri yn ddi-flewyn ar dafod. Hwn oedd yr argyfwng bancio gwaethaf ers 1929 meddai ac roedd hi'n bosib bod y byd cyfan yn wynebu'r fath o sioc economaidd wnaeth haneru gwerth farchnad stoc Japan dros nos yn 1987- cwymp sy'n llesteirio economi'r wlad honno hyd heddiw.

Ac eithrio ar yr ymylon does 'na fawr ddim y gall llywodraeth y cynulliad wneud ynghylch hyn. Y gwir amdani yw bod unrhyw fesurau posib fel piso drys bach yn y môr o gymharu â'r grymoedd economaidd sy'n ein hwynebu. Mewn gwirionedd does 'na ddim llawer y gall llywodraeth y Deyrnas Unedig wneud ychwaith.

Roedd hi'n rhyfedd felly bod y Ceidwadwyr wedi dewis heddiw i alw am ragor o ddefnydd o gwmnïau preifat i gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus. Onid oedd hi braidd yn rhyfedd i wneud hynny ar yr union adeg yr oedd George Bush yn cyflawni'r rhaglen fwyaf o wladoli yn hanes dynoliaeth? Dyna oedd y cwestiwn i David Melding y bore 'ma. Gofynnais iddo (a'n nhafod yn saff yn fy moch) oedd e'n gyffyrddus i fod i'r dde o Sarah Pallin?

Chwerthin yn hytrach na gwrido gwnaeth David ond mae 'na ryw deimlad yn y Bae ein bod yn dawnsio ar ymyl y dibyn gyda ffactorau economaidd allanol yn debyg o ysgubo pob dadl arall i'r neilltu yn hwyr neu'n hwyrach.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.