Helo
Hirfelyn tesog? Go brin. Mae'r hynny o haf a gafwyd yn 2008 ar ben a'r Senedd a ThÅ· Hywel yn dechrau bywiogi.
Os ydych chi'n dyfalu am y diffyg diweddaru ar y blog -y gwir amdani oedd fy mod wedi fy nharo'n wael ar ddydd Mercher yr Eisteddfod. Mae'n gythraul o beth. Am y tro cyntaf (ac am wn i'r unig dro) yn fy mywyd roedd yr Eisteddfod o fewn cerdded i fy nghartref -a minnau'n gorfod gwylio'r brifwyl (a'r gemau Olympaidd o ran hynny) o fy ngwely.
Ta beth, dw i ddim yn credu fy mod wedi colli llawer. Straeon gwaelod y gasgen sydd wedi bod yn llenwi'r papurau a safleoedd newyddion Cymreig yn ystod yr wythnosau diwethaf.
Mae pethau'n wahanol iawn yn San Steffan, yr Alban a'r Unol Daleithiau. Fel tamaid i aros pryd felly dyma ychydig i ddanteithion o'r tu hwnt i Gymru.
Dw i ddim yn meddwl fy mod i erioed wedi gweld gwleidydd yn edrych mor anghyffyrddus mewn cyfweliad a'r canghellor wrth iddo gael ei holi gan fy nghyfaill Brian Tailor. Nid ei sylwadau dadleuol ynglŷn â'r economi oedd problem Alistair Darling ond yr honiad ei fod wedi awgrymu nad yw cyn-arweinydd Llafur yr Alban yn berson hoffus. Gellir gweld y cyfweliad yn
Yn yr Unol Daleithiau dewis John McCain fel Dirprwy Arlywydd sydd wedi corddi'r dyfroedd. Mae'n ymddangos bod Sarah Palin yn wynebu amryw drafferthion. Un sy ddim wedi cael llawer o sylw hyd yma yw'r honiad yn y ei bod hi'n gyn-aelod o'r "". Mae'n rhaid i mi gyfaddef nad oeddwn i'n ymwybodol o fodolaeth "pleidiau cenedlaethol" o fewn yr UDA ond mae'n anodd credu bod cefnogi annibyniaeth i un o'r taleithiau o gymorth i wleidydd mewn gwlad lle mae gwladgarwch mor bwysig!
.
SylwadauAnfon sylw
Mae yna gynifer o symudiadau annibyniaeth yn yr Unol Daleithiau taw anodd eu cyfrif ydyn nhw: Alaska, California, Hawaii, Texas, New Hampshire ac ati -- ynghyd â sawl llwyth brodorol. Wrth gwrs pa mor gredadwy yw'r ymdrechion hyn yw'r cwestiwn.
Croeso nôl Vaughan. Diddorol yn yr Alban - is-etholiad holl bwysig yn Glenrothes. Ymgeisydd cryf gan y Blaid Lafur a fife yn lle rhyfedd........Soar Alaska gyda llaw...
...mae pleidiau annibynniaeth yr UDA a chysylltiad cryf gyda'r adain chwith hiliol ydy Plaid Annibynnol Alaska yr un fath? Hefyd mae'r ddynes yma yn pregethu moesoldeb ac yn wrth erthylu ond ar y llaw arall mae ei mherch 17 oed yn disgwyl plentyn. Be fydd gan yr Efengylwyr Ffwndamental gwyn i ddeud am hyny tybed. Tybed os ydy McCain wedi sylweddoli mae camgymeriad oedd dewis yr Alaskan!!
A chofiwch fod rhai sydd am i Hawaii adfer ei hen frenhiniaeth wedi meddiannu'r hen balas yn ddiweddar.