R-bost
Beth yw hwn? E-bost gan Jenny Randerson ynghlch amseroedd aros yn y gwasanaeth iechyd. Fe wnâi ddarllen honna ar ôl darllen yr e-bost gan Jenny wnaeth gyrraedd awr yn ôl ynglŷn â chynlluniau PFI a'r un ddaeth bore 'ma ynghylch meddygon teulu. Tri datganiad o fewn ychydig oriau. Oes 'na etholiad, tybed?
Dyw Jenny ddim wedi cyhoeddi eto p'un ai ydy hi'n bwriadu sefyll yn yr etholiad i olynnu Mike German fel arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol ai peidio. Dw i'n ddigon parod i gredu bod hi rhwng dau feddwl. Mae'r swydd yn un digon diddiolch ar hyn o bryd yn wyneb mwyafrif sylweddol y llywodraeth yn y cynulliad ac etholiad cyffredinol ar y gorwel lle mae gan y blaid fwy i golli nac i ennill.
Ond ma gan Jenny broblem arall hefyd. Dyw'r rheolau ar gyfer yr etholiad ddim wedi eu penderfynu eto ond fel mae pethau'n sefyll ar hyn o bryd mae angen enwebiad gan aelod cynulliad arall er mwyn sefyll. Gyda Peter Black a Mick Bates yn cefnogi Kirsty a Mike German yn mynnu ei fod e'n niwtral dim ond Eleanor Burnham sydd ar ôl. Mae Eleanor yn gobeithio am newid yn y rheolau i alluogi iddi sefyll ei hun . Does dim pwynt i Jenny ofyn iddi hi am enwebiad, felly.
Mae 'na ddigon o bobol yn y blaid sy'n synhwyro y byddai coroni Kirsty yn ddiwrthwynebiad oherwydd rheolau'r broses enwebu yn niweidiol. Wedi'r cyfan dim ond deunaw mis sy 'na ers y tro diwethaf i'r blaid groeshoelio'i hun ar gymhlethdodau ei chyfansoddiad.
Oherwydd hynny dw i'n argyhoeddedig y bydd Jenny (ac efallai Eleanor) yn cael sefyll os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Mae 'na arwyddion amlwg bod cefnogwyr Kirtsy yn credu y byddai etholiad yn llesol ac y byddai'n gwbwl derbyniol o'u safbwynt nhw pe bai Mike German yn cynnig enwebu ymgeisydd er mwyn sicrhâi bod 'na ornest.