´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Aros mae'r mynyddoedd bach...

Vaughan Roderick | 11:00, Dydd Mawrth, 23 Rhagfyr 2008

Mae gan bawb yng Nghymru eu milltir sgwâr a gan fod y Nadolig yn hela i ni feddwl am y pethau 'ma meddyliais y byddai'n braf sgwennu am fy un i. Fe fydd 'na ychydig o wleidyddiaeth ar ddiwedd y post- ond dim byd trwm!

Mae gwreiddiau fy nheulu ar Fynydd Maio. "Ble?" meddwch chi. Dydw i ddim yn eich beio chi! Dyw Mynydd Maio ddim yn fynydd mawr crand. Mae'n un o'r rhes o fynyddoedd sy'n gwahanu cymoedd Taf a Rhymni. Os ydych chi'n teithio ar hyd yr A470 Mynydd Caerffili (neu Fforest Ganol) yw'r mynydd cyntaf. Mynydd Maio yw'r ail un. Mynydd Eglwysilan yw'r trydydd.

Mae na ddau bentref bach ar y mynydd. Tawelfryn yw'r cyntaf. Rwy'n ei alw'n bentref ond stad cyngor bach yw'r lle mewn gwirionedd. Fe'i enwyd ar ôl fy hen dad-cu Tawelfryn Thomas. Groes Wen yw'r pentref arall. Does na ddim llawer yno chwaith- rhyw hanner cant o dai, tafarn o'r enw'r White Cross a chapel. Ond am gapel!

TÅ· cwrdd Groeswen oedd yr adeilad cyntaf i'w godi gan y Methodistiaid yng Nghymru. Ym Mis Ionawr 1742 cyflwynodd dyn o'r enw Thomas Evans gae o'r enw Waun Fach i Howell Harris er mwyn codi'r adeilad. Gofynnodd yntau i William Edwards, TÅ· Canol fod yn bensaer, yn adeiladydd ac yn weinidog ar yr achos! William Edwards "yr adeiladydd i ddau fyd" oedd arwr mawr Mynydd Maio. Pan oeddwn yn grwt rwy'n cofio bod llun ohono ar y wal yn NhÅ· Canol ac roedd Wncwl Ted ac Wncwl Elwyn yn adrodd hanesion amdano- yn enwedig ei ymdrechion diflino i bontio Afon Taf ym Mhontypridd gan godi, yn y diwedd, y bont y mae'r dref wedi ei henwi ar ei hol.

Cafodd Tŷ Canol ei ddymchwel yn ôl yn y chwedegau er bod fy nghefnder Richard wedi cadw'r enw ar gyfer ei ganolfan farchogaeth. Rhai degawdau'n ddiweddarach roedd hi'n ymddangos bod y capel yn wynebu'r un ffawd. Pan briododd fy chwaer yno yn 1994 y gred oedd mai honno fyddai'r briodas olaf er y bwriadwyd cadw'r fynwent yn agored am rai blynyddoedd ar gyfer y ffyddloniaid.

Yn ffodus mae 'na bobol dda yn y byd 'ma. Mae rhai o nhw'n mynd mewn i wleidyddiaeth ac felly yn gallu cyflawni pethau yn hytrach na dim ond sgwennu amdanyn nhw! Un o'r rheiny yw arweinydd bytholwyrdd Cyngor Caerffili, Lindsay Whittle. Gwell i mi gyfaddef yn fan hyn mai Lindsay yw un o'm cyfeillion hynaf. Rwy'n cofio gwylio canlyniadau etholiad Chwefror 1974 yn ei gwmni- mewn "lock-in" yn y White Cross fel mae'n digwydd. Mae gen i ragfarn o'i blaid!

Fel mae'n digwydd mae Groeswen yn ran o ward Lindsay. Ar gais y Gymdeithas Hanes Lleol fe weithiodd yn ddiflino i baratoi cynlluniau a sicrhâi grantiau i ddiogelu'r capel. Mae hynny wedi costi cannoedd o floedd o bunnau oherwydd yr angen i ddefnyddio deunydd a dulliau adeiladu traddodiadol. Mae 'na waith ar ôl i wneud ar y fynwent (lle mae Ieuan Gwynedd, ymhlith eraill o'n mawrion wedi ei gladdu) ond fedrai ddim dweud wrthoch chi pa mor bert y mae'r capel yn edrych a pha mor braf fydd hi wrth i blant ysgol y cylch ddechrau ei ddefnyddio i ddysgu am hanes eu hardal.

Dyma'r darn bach o wleidyddiaeth. Rydym wedi bod yn sôn llawer am dreuliau a thrachwant gwleidyddion yn ddiweddar. Os ydyn nhw'n cam bihafio mae'n nhw'n haeddu popeth mae nhw'n ei gael. Ond dyma i chi gyfaddefiad arall. Ar y cyfan, dw i'n edmygu'n haelodau cynulliad a seneddol a'n cynghorwyr. Mae'r mwyafrif llethol ohonyn nhw'n bobol anrhydeddus sy'n gweithio'n rhyfeddol o galed dros ei hetholwyr.

Nadolig Llawen iddyn nhw.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:22 ar 23 Rhagfyr 2008, ysgrifennodd dewi:

    Bendigedig Vaughan...nawr beth am gwis Nadolig ???

  • 2. Am 15:45 ar 23 Rhagfyr 2008, ysgrifennodd osian:

    Yn aml yn gweithio yn rhyfeddol o galed heb cael ei gwerthfawrogi.

  • 3. Am 18:53 ar 23 Rhagfyr 2008, ysgrifennodd canalba:

    Blog arbenig o dda ac adeiladol ar gyfer amser hyn o'r flwyddyn.
    Diolch am eich blogio diflino dros y flwyddyn.
    Cwis yn syniad gret

  • 4. Am 18:40 ar 30 Rhagfyr 2008, ysgrifennodd gareth thomas:

    chwarae teg i Lyndsey Whittle a diolch am rhoid yr hanes diddorol ma i ni.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.