Wyt ti'n Cofio...
Roeddwn wrth fy modd yn darllen y ynghylch agor Neuadd Beasley yn Llangennech. Mewn sawl ystyr Eileen Beasley oedd Rosa Parkes y mudiad iaith yng Nghymru- y fenyw gyffredin -ond anghyffredin- wnaeth ddweud "digon yw digon" a thrwy hynny symbylu mudiad cyfan.
Rhai blynyddoedd wedi helyntion y dreth roedd Mrs Beasley yn un o'n athrawon yn Ysgol Rhydfelen a dydw i ddim yn rhyfeddu bod Cyngor Gwledig Llanelli wedi gorfod ildio iddi. Os oedd Mrs Beasley yn penderfynu bod hi am gael rywbeth fe fyddai'n ei gael yn y diwedd- boed hynny'n bil treth Cymraeg neu'n ddarn o waith cartref da gan ddisgybl diog (fi).
Mae'n anodd gwerthfawrogi erbyn hyn pa mor arloesol a blaengar oedd gwaith athrawon Maes Garmon a Rhydfelen- y ddwy ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf. Heb unrhyw adnoddau dysgu pwrpasol ac yn wyneb cryn wrthwynebiad fe ddefnyddiodd y criw bach yma pob owns o'u hegni a'u gallu i wrthbrofi'r gred gyffredinol nad oedd y Gymraeg yn gyfrwng addas ar gyfer addysg uwchradd fodern.
Mae Mrs Beasley yn haeddu ei neuadd... a llawer mwy.
Cyweiriad; Glan Clwyd nid Maes Garmon (darllenwch y sylwadau), Byswn wedi derbyn cerydd gan Mrs Beasley, slap gan Tom Vale, dagrau gan Ruth Evans a phregeth gan Gwilym Humphries am gamgymeriad mor elfennol!
SylwadauAnfon sylw
Gwir arwres. Mor eironig oedd darllen am yr anhawster sydd i gael gwys Cymraeg bellach.
Fel un sy'n dysgu mewn Ysgol (honedig ) Gymraeg ers chwarter canrif bellach, ofnaf mai dillad yr ymerawdwr o genedlaetholwr ydynt. Daw disgyblion
atom yn 11 yn medru'r Gymraeg, a byddwedi ei cholli erbyn 16. Nid yw'n syndod o ystyried y bratiaith mae athrawon iau yn ei throsglwyddo iddynt. Da iawn Caryl Parry-Jones ac Eifion Lloyd-Jones am gicio penolau yr estrysiaid o brifathrawon sydd gennym bellach.
Onid Ysgol Glan Clwyd oedd yr ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf? Yn sicir, dyne'r honiad balch glywes i gan-gwaith gan athrawon yn ystod fy amser yno. Fe'i hagorwyd ym 1956 dwi'n meddwl.
Da gweld Eileen Beasley'n cael ei anrhydeddu.
Efallai dy fod yn iawn, dw i'n gwybod mai Rhydfelen oedd yr ail ac mai ysgol yng Nglwyd oedd y gyntaf. Roeddwn i'n meddwl mai Maes Garmon oedd hi. Fe fydd rhywun yn gwybod!
Mae dewrder o'r fath yn beth gwirioneddol brin, ac yn codi cywilydd ar rywun fel fi.
Glan Clwyd y gyntaf...a Llangynwyd y 23ain...
Ai Llangynwyd yw enw'r ysgol newydd ym Maesteg? Gobeithio felly. Enw rhagorol ar gyfer ysgol i fechgyn (a merched) ifanc ffôl yn byw yn ôl eu ffansi... fe yfai beint yn yr hen dy neu'r Ty Cornel i enw yna!
Rwy'n deall felly - roedd na wrthwynebiad yn yr ardal os dwi'n cofio. Dim digon o ramant i'r enw!
"Ysgol Wil Hopcyn" neu "Ysgol yr Hen Blwyf" yn well falle...