Don Quixote
Un o'r ychydig eiriau o Gymraeg y mae Don Touhig yn gyfarwydd â hi yw "crachach". Mae'n ei ddefnyddio'n gyson gan amlaf fel rhan o ymosodiad ar y cynulliad neu fesurau i hybu'r iaith. Dyma fe yn Nhŷ'r Cyffredin yn Chwefror 2008.
"The chattering classes, the crachach, who believe that they know best for Wales, swoon at the prospect of more powers for the National Assembly. Many in the media think that more powers for Cardiff is the story of the decade--tosh, rubbish. The real people of Wales, the werin, have no time for all of this, and I stand with them."
Dyma fe eto ym Mis Gorffennaf yn sôn am record Llywodraeth y Cynulliad.
"What we have in Wales at the moment is the priorities of the crachach and not the werin"
Syr Emyr Jones Parry? Crachach! Crachach! Crachach!
Nawr darllenwch beth sydd gan i ddweud am yr LCO iaith.
"In each devolution referendum, there has been a cabál of West Briton MPs campaigning against moves for self-government. They will be more negative drivel this time, too. It's sad to record that the Conservative Party has bravely enacted almost all Welsh language reforms. Labour now has a chance to show our respect to the unique language of our people. Welsh has traditionally been the language of the gwerin, while English was the language of the crachach."
At bwy mae'r belten yna wedi ei anelu tybed?
SylwadauAnfon sylw
Dwy ochr o’r geiniog, fel petae. Mae cofnodion o bleidleisau Touhig yn Nhy’r Cyffredin yn dweud mwy amdano, na mae hyd yn oed Flynn.
Pleidleisiodd Touhig yn gryf dros:
- Gardiau ‘ID’
- Ysbytai sylfaen (foundation hospitals)
- Ffioedd ychwanegol i fyfyrwyr (student top-up fees)
Ac yn gryf iawn dros:
- ddeddfau wrth-derfysgaeth Llafur
- y rhyfel yn Iraq
- a Trident
(gweler ‘theyworkforyou.com’)
Dilyn Kinnock wnaeth Touhig fel AS Islwyn. Tybed oes rhywbeth yn y dwr yno? Mae ganddo fwyafrif llethol, y seithfed fwyaf yn y Ty. Credaf byddai asyn a bathodyn Llafur arno yn cael ei ethol yno. Mae Flynn yn hawlio ei fod yn uchelgeisiol, ond nid yw gyrfa gwleidyddol Touhig yn dangos ei fod wedi llwyddo. Nid gyrfa ddisglair yw hi, ond i’r gwrthwyneb, er iddo gefnogi polisiau adain-dde Llafur Newydd. Hyd y gwelaf i, nid yw Cymru wedi elwa ryw lawer, os o gwbl, o’i amser yn y Senedd. Dylai Touhig son gyntaf am grachach ei Blaid ei hun, er enghraifft, Blair y miliynydd. Amhosib yw gweld y gwahaniaeth rhwng weinidogion Llafur a’r rhai sy’n eistedd cyferbyn a nhw ar feinciau y Toriaid. Llai, nid mwy of gynrychiolwyr o’r fath sydd eu hangen arnom fel cenedl.
Ysgrifennais eisoes mewn lle arall, fy mod yn parchu Paul Flynn. Fe yw yr unig un y gallaf ei edmygu ymhlith ei gyd-aelodau seneddol Llafur o Gymru. Nid wyf yn deall pam ei fod yn perthyn i Blaid sydd wedi colli ei ffordd, ac anghofio neu throi ei chefn ar ei gwreiddiau a’i delfrydau sylfaenol. Gobeithaf y daw etholwyr Islwyn i’w synhwyrau yn fuan, a dangos y drws i Touhig a’i fath.
Rhwydd hynt i Mr Touhig ymrwbio efo'r crachach Seisnig yn Llundain, ond peidied ef ag anghofio i'w lywodraeth a'i blaid fradychu egwyddorion gwir sosialaidd y werin Gymreig yn ystod y deuddeng mlynedd ddiwethaf. Ni ellir dehongli ymateb yr Aelod dros Islwyn ond fel enghraifft arall o wrth-Gymreictod cibddall y giwed honno o sosialwyr 'honedig' sy'n troi eu golygon tua Llundain fawr, ac sy'n anfodlon i'r werin Gymreig gael sefyll ar ei thraed ei hun a gwneud ei phenderfyniadau democrataidd drosti ei hun yng Nghaerdydd heb orfod tynnu wrth linynnau barclod seneddwyr Llundain.
Diolch i'r drefn am agwedd fwy rhesymol Paul Flynn yn hyn o beth. Bydd yn ddiddorol gweld yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf a fydd cynddaredd gwrth-Gymraeg a llid negyddol ac adweithiol rhai o aelodau etholedig y Blaid Lafur yng Nghymru yn cael y trechaf ar safbwyntiau mwy sosialaidd a goleuedig Mr Flynn a'i gymheiriaid.
'Fair Play' Mr Roderick, gwna i ddim arguan efo Paul Flynn, mae yn fachgen wych..
Ond beth fyddai Max Boyce yn gwneud o hyn i gyd ? Fydde'n ni'n siomi petai Cymru fach yn cwympo mewn i drap o 'Balkanisation' rhwng y gwahanol gymunedau.