Y Deg Uchaf - Gorll. Caerfyrddin a De Penfro
"Even a socialist would be better than that awful little man..." Dyna'r frawddeg wnaeth ddysgu i fi bod gwleidyddiaeth Sir Benfro yn wahanol i wleidyddiaeth gwedill Cymru.
Yr aelod seneddol Ceidwadol Nicholas Bennett oedd yr "awful little man" a pherchennog castell yn ne'r sir wnaeth yngan y geiriau i esbonio'r faner lafur enfawr oedd yn hongian o un o'r tyrrau.
1992 oedd y flwyddyn ac fe gollodd Bennett hen etholaeth Penfro i'r ymgeisydd Llafur hoffus Nick Ainger. Llwyddodd yntau i oroesi adrefni ffiniau gan farnu'n gywir bod etholaeth Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro yn fwy ffafriol i Lafur na Phreseli.
Ar hyn o bryd mae Nick yn bwriadu sefyll yn yr etholiad nesaf. Byddai neb yn synnu pe bai'n newid ei feddwl. Mae'n wynebu cythraul o frwydr i gadw'r sedd ac mae'n anodd credu y byddai gobaith cath gan yr un ymgeisydd Llafur arall.
Gadewch i ni edrych ar yr ystadegau gan ddechrau gyda'r canlyniad yn 2005;
Llafur 13953 (36.9%)
Ceidwadwyr 12043 (31.8%)
Plaid Cymru 5582 (14.7%)
Dem. Rhydd 5399 (14.3%)
UKIP 545 (1.4%)
Mwyafrif 1910 (5%)
Mae'r ffiniau wedi newid rhyw fymryn ers hynny ond dim mewn modd sy'n ffafrio unrhyw un blaid yn arbennig. Dyma ganlyniad etholiad y cynulliad yn 2007.
Ceidwadwyr 8,590 (30.1%)
Llafur 8,492 (29.7%)
Plaid Cymru 8,340 (29.2%)
Dem. Rhydd. 1,806 (6.3%)
Ann 1,340 (4.7%)
Mwyafrif 98 (0.3%)
Dyna i chi ras tri cheffyl go iawn! Wrth fynd heibio mae'n werth nodi na chafodd buddugoliaeth y Ceidwadwyr unrhyw effaith ar gryfder y pleidiau yn siambr y cynulliad. Effaith y fuddugoliaeth honno oedd alltudio Glyn Davies o'r bae a sicrhau seddi i Joyce Watson a Nerys Evans.
Yr hyn sy'n drawiadol am y canlyniad yw perfformiad y Ceidwadwyr. Roedd 'na gynnydd yn eu pleidlais o 9.8% rhwng 2002 a 2007. Roedd Llafur i lawr 5.1% ac roedd 'na ostyngiad o 4% ym mhleidlais Plaid Cymru- un o ganlyniadau salaf y blaid honno yn etholiad 2007.
Sut mae esbonio hyn oll? Mae'n debyg bod newid ymgeisydd yn rhan o'r esboniad yn achos Plaid Cymru ond y ffactor allweddol yw'r trawsnewidiad yn nhrefniadaeth leol y Ceidwadwyr dros y blynyddoedd diwethaf.
Plaid leol ddigon cysglyd oedd hon nes i brif weithredwr y "Countryside Alliance" Simon Hart gael ei ddewis fel ymgeisydd seneddol y Ceidwadwyr a phenderfynu newid pethau. Mae'n ddiddorol bod y dewisiad hwnnw wedi ei wneud o dan drefn arbrofol mewn cyfarfod oedd yn agored i bawb. Fe arweiniodd hynny at gyhuddiadau bod dilynwyr Mr Hart wedi cymryd y gymdeithas drosodd.
Dyma oedd gan y Tori dadleuol John Jenkins i ddweud mewn llythyr agored yn Chwefror 2007;
"I was Deputy Chairman in charge of membership for that association when friends of Mr Hart started recruiting en masse with a view to hijacking the local Association. I remember one branch signing up over 90 members in one month which, for an association at the time with only 400 members, was a considerable proportion."
Cafwyd cyhuddiadau tebyg gan gyn gadeirydd Ceidwadwyr Cymru Syr Eric Howells ac o ganlyniad cafodd ei hel o'r blaid.
Beth bynnag yw'r gwirionedd, mae peiriant lleol y Ceidwadwyr bellach yn un rhyfeddol o effeithiol ac yn hynod o gyfoethog. Cafwyd ffwdan y llynedd ynghylch rhodd o £40,000 i'r gymdeithas gan gwmni rheolu buddsoddiadau heb unrhyw gysylltiad amlwg a'r etholaeth. Nid dyna yw'r unig ffynhonnell ariannol. Yn 2007, er enghraifft, roedd incwm y gymdeithas yn £50,017.
Mae 'na gyfyngiadau ar wario yn ystod etholiad wrth gwrs ond does dim uchafswm ar wariant yn y cyfnod cyn i'r etholiad gael ei alw. Yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Penfro mae peiriant pres y Torïaid yn dechrau dwyn ffrwyth. Fe fyswn i'n mentro swllt ar Simon Hart yn yr etholiad cyffredinol ac yn rhagweld ras rhwng y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru yn yr etholiad cynulliad nesaf.
SylwadauAnfon sylw
Ew, diddorol Vaughan! Mentrwn innau swllt ar y Ceidwadwyr i ennill y sedd hon yn yr etholiad cyffredinol nesaf, ond dwi hefyd yn dueddol o deimlo y gallai'r cytundeb rhwng PC a Llafur yn y Cynulliad fod yn ddigon i sicrhau bod hon yn parhau'n las yn 2011.
Mae 2011 yn dibynnu ar performiad Llafur tro yma. Os mae Llafur yn colli yn wael iawn feda'r Plaid dadlau ras dwy ceffyl rhwngddynt ar Ceidwadwyr a wedyn mae gyd yn dibynnu lle mae hen pleidleiswyr Llafur yn fynd.
Sedd rhyfedd ei ddemograffig. Pam ddim uno Gogledd Penfro a Gorllewin Caerfyrddin a gadael gweddill Penfro fel un sedd?
Cytuno gyda buddugoliaeth Tori yn 2010..
Ond tybed i bwy fydd y Toriaid anhapus megis Jenkins a Howells yn pleidleisio?