Pobol y Cwm
Mae heddiw fel dydd o haf yng Nghaerdydd gyda'r adeiladwyr ar y safle drws nesaf i'r cynulliad wedi diosg eu crysau. Serch hynny mae dros saithdeg o ysgolion Cymru ar gau heddiw oherwydd "tywydd garw"- y rhan fwyaf ohonyn nhw yng nghymoedd y de.
Cynigiwyd esboniad gan y Democratiaid Rhyddfrydol heddiw sef bod canran uchel o athrawon y cymoedd yn dewis peidio byw yn agos i'w gweithle. Wrth i drigolion Rhondda Cynon Taf a Chaerffili arllwys i mewn i Gaerdydd i weithio yn y bore mae llwyth o weithwyr proffesiynol yn teithio i'r cyfeiriad arall. Mae eraill yn dewis byw yn y Bannau a Bro Morgannwg.
Mae'r patrwm hwnnw yn un sy'n niweidiol i'r cymoedd mewn sawl ffordd. Yn gyntaf dyw'r gweithwyr hynny ddim yn gwario eu cyflogau ym musnesau a siopau lleol mae e hefyd yn amddifadu'r rhanbarth o bobol allai chwarae rôl bwysig yn y gwaith o adfywio cymunedau difreintiedig.
Dyw e hi ddim yn bosib wrth gwrs o orfodi i bobol fyw mewn cymuned neu ardal benodol ond fe gododd Jenny Randerson un pwynt diddorol. Yn y dyddiau pan oedd eira'n beth mwy cyffredin nac yw e nawr roedd disgwyl i athrawon oedd yn methu cyrraedd eu hysgolion eu hun gerdded i'r ysgol agosaf i'w cartref i gynnig help llaw. Beth ddigwyddodd i'r polisi hwnnw, tybed?
SylwadauAnfon sylw
Credaf fod y pwynt ynglyn ac athrawon yn cyflwyno eu hunain yn yr ysgol agosaf yn parhau yn wir, yn ddamcaniaethol. Y gwir ydyw, gyda pwyslais mawr ar wiriadau CRB , a fuasai pennaeth yn dymuno cael degau
o bobl ddiarth yn cyrraedd ar ei stepan drws yn honni mai athrawon ydynt ? . Mae pwynt dilys gennyt ynglyn a'r pellter mae athrawon yn ei deithio. Mae'r dynfa o'r Fro Gymraeg tuag at Gaerdydd yn unig, yn hytrach nac at y de-ddwyrain yn gyffredinol.
Nid yw'n beth dymunol bob tro i athro fyw wrth ymyl ei fan gwaith, cofiwch .
Cofiaf ffys mawr rhyw 20 mlynedd yn ol pan benderfynodd prifathro newydd yn ynys Mon fyw rhyw 20 milltir o'r ysgol. Credaf ei fod wedi bod yn ganllaw, ar un pryd, i bennaeth fyw o fewn pellter arbennig i ysgol.