Rialtwch
Dydw i ddim eisiau mynd ymlaen ac ymlaen am yr LCO iaith ond mae un peth bach yn fy mhoeni. Mae'r llywodraeth yn bae yn dadlau fel mater o egwyddor taw'r cynulliad yw'r corff cymwys i lunio mesurau ieithyddol. Ond os taw'r egwyddor sy'n bwysig pam cytuno i unrhyw gyfyngiadau o gwbwl ar yr hawl? Fel mater o egwyddor oni ddylai'i cynulliad fod a'r gallu i ddeddfu orfodi dwyieithrwydd ar siopau tsips ac, o ran hynny, sinemâu?
Dyma'r ffilmiau. Ychydig o Gernyweg yn gyntaf.
Mae Dewi wedi canfod Celtiaid yn Serbia...
... a hanes Patagonia yn Sbaeneg
Gan fod pencampwriaeth y chwech gwlad yn cychwyn y penwythnos hwn dyma ychydig o win y gorffennol o archifau'r ´óÏó´«Ã½. Mae'r gystadleuaeth wedi cau!
SylwadauAnfon sylw
Rhyfedd mor bell mae'r Gernyweg a'r Gymraeg wedi gwahanu. Dim yn deall un gair mae'r glowr yn dweud tra bo Gaeleg yr Alban ac Iwerddon yn ddealladwy i'w gilydd.
Mae'r boi yma'n ddoniol - ydy e o ddifrif?
"Fel mater o egwyddor oni ddylai'i cynulliad fod a'r gallu i ddeddfu orfodi dwyieithrwydd ar siopau tsips ac, o ran hynny, sinemâu?"
Dyna'r union beth oeddwn i'n meddwl Vaughan, a dyma pam bydd Cymdeithas yr Iaith yn lobio aelodau'r Cynulliad ac Aelodau Seneddol yn gyson dros y misoedd nesaf, yn galw am gael gwared o'r cyfyngiadau'n llwyr.
Y cam nesaf (a'r frwydr nesaf) yw ceisio cael mesur iaith sy'n cynnwys y sector breifat yn llwyr.
Ymysg yr holl gampweithiau diwyllianol ar You Tube mae un yn rhagori - hollol fendigedig!
Os oes diddordeb gyda ti mewn 'Celtiaid Prydeinig' o wledydd eraill, dyma i ti Brydydd Canoloesol Almaenig yn canu alawon Cymraeg ar delyn fach!