´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Siom

Vaughan Roderick | 10:47, Dydd Gwener, 6 Chwefror 2009

Mae newyddiadurwyr yn hoff o drwbl. Trafferth yw ein busnes ni. Gwrthdaro sy'n talu'n cyflogau.

Mae fy nghalon yn gwaedu felly wrth i mi orfod cofnodi bod 'na arwyddion cynnar y gallai'r LCO iaith gael rhwydd hynt yn San Steffan. Mae'n ymddangos bod aelodau seneddol Llafur wedi penderfynu ymddiried yn eu cyd-bleidwyr yn y Cynulliad i atal unrhyw fesur byddai'n gosod baich ar y sector breifat a'u bod o'r farn bod yr egwyddor o drosglwyddo deddfu ieithyddol i'r cynulliad yn un sy'n amhosib dadlau yn ei herbyn. Gwnaeth hyd yn oed y Don ei hun awgrymu hynny ar "Dragon's Eye" neithiwr.

Gallai pethau suro, wrth gwrs, ac mae 'na ofnau ar bumed llawr Tŷ Hywel y gallai rhai o aelodau'r pwyllgor dethol lusgo'u traed yn y gobaith y bydd etholiad cyffredinol yn gyrru'r holl broses yn ôl i'r cychwyn.

Fe gawn weld.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 16:53 ar 6 Chwefror 2009, ysgrifennodd Iestyn:

    Maddeuwch fy anwybodaeth. Ydw i'n guywir i ddweud, os ydy'r etholiad ar ol i'r eLCO gael ei gymeradwyo, mae'r pwerau gyda'r Cynulliad - diwedd y stori.

    Ac wedyn, os daw mesur 2010 yn creu comisiynydd iaith, a mesur 2012 yn gorfodi i gwmniau egni weithredu'n ddwyieithog, a mesur 2014... ydy hynny'n dderbyniol?

    (Gyda llaw, yn dilyn cwestiwn rhai wythnosau nol erbyn hyn, lluosog eLCO, yn nhraddodiad y Lladin, byddai eLCI. Wneiff hynny dala mlaen, chi'n meddwl?)

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.