Anoracia
Rwyf newydd ddychwelyd o gwis blynyddol y Sefydliad Materion Cyhoeddus. Hwn, heb os, yw'r digwyddiad mwyaf anoracaidd yn y calendr Cymreig- dwy awr o gwestiynau ynghylch LCOs, pwyllgorau deddfwriaethol ac yn y blaen. Roedd gan y rhan fwyaf o'r cwmnïau lobio eu timau felly hefyd y cyfryngau a'r pleidiau gwleidyddol. Ac eithrio un blaid, hynny yw. Nid y Gymru wledig yw'r unig le lle mae Llafur yn diflannu!
Un cwestiwn wnaeth pery pryder i sawl tîm oedd hwn. "Sawl Aelod Seneddol ac Arglwydd oedd yn aelodau o'r cynulliad cyntaf?" Wyth yw'r ateb cywir ond saith oedd ateb y rhan fwyaf o'r timau. Yn rhyfedd roedd y rhan fwyaf o dimau wedi anghofio'r un person. Pwy oedd hwnnw? John Marek? Cynog Dafis? Nage'n wir. Y person anghofiedig oedd Ieuan Wyn Jones. Mae hynny'n dweud rhywbeth. Dydw i ddim yn siŵr beth!
SylwadauAnfon sylw
Vaughan - wnes di ddim holi Carwyn Jones ar CF99 pam fod Wigley ac aelodau Plaid Cymru yn aros am dwy flynedd i gael eu 'dyrchafu' i Dy'r Arglwyddi a fod Glenys Kinnock yn cael eu dyrchafu fel Scotty ar Star Trek ... fawr o sylwedd i honiad Brown am lanhau gwleidyddiaeth, trylowyrder a diwygio'r cyfansoddiad.
Oes rheswm/esgus gan Lafur?
Paid becso fe fydd dy gwestiwn yn cael ei ofyn! Doeddwn i ddim yn teimlo mai Carwyn oedd y person i'w ateb. Mae gen i amryw o gyfleoedd yn ystod yr wythnos nesaf.
Diolch Vaughan.
Yn gwbl amherthnasol i'r sgwrs yma, ond o gymryd taw'r toriaid fydd yn ffurfio'r llywodraeth nesaf, a DC wedi gweud y bydd yn torri ar niferoedd y seddi yn San Steffan, siwd bydd hynny'n effeithio ar nifer y seddi yn y Cynulliad? Oes unrhyw reswm cyfreithiol i ddefnyddio'r un un ffiniau? A fydd yn rhaid i ni ethol dau aelod o bob sedd, a'r 20 top yps i ewneud 80 (ish) aelod o hyn ymlaen? Ble bydd modd i ni ffindio rhywun o'r un safon a'n haelod presennol yn Islwyn?
On i'n gallu rhifo chwech o'r saith bant yn syth, ond waries i ryw ddeg munud yn meddwl pwy on i wedi anghofio: neb llai na'r Wir Anrhydeddus Rhodri Morgan!
Os gofiau'n iawn fe fyddai gan Gymru ryw 32 o aelodau senddol pe bai'n hetholaethau o'r un maint a rhai Loegr. Wrth gwrs ef fyddai'n llai eto pe bai DC yn torri nifer yr aelodau yn Lloegr. Mae etholaethau senedd yr Alban eisoes yn wahanol i etholaethau Albanaidd San Steffan oherwydd y gwahaniaeth yn y niferoedd. AS neu AC Islwyn wyt ti'n cyfeirio ato/i neu'r ddau!