Melys fedd...
Dyw Roger Roberts ddim yn gallu dianc o'i wreiddiau yn y gobeithlu! Sut arall mae esbonio ei alwad yn NhÅ·'r Arglwyddi am wahardd y ddiod gadarn ar drenau? A dyna fi'n meddwl bod bois Capel Wesle yn llai "hard-core" na'r enwadau eraill!
I fod yn deg pwynt Arglwydd Roberts yw ei fod yn yn brofiad annymunol, brawychus hyd yn oed, i fod ar drên a theithwyr sy'n feddw ac o bosib yn fygythiol. Ond onid yw gwaharddiad braidd yn llawdrwm? Beth am gael cerbyd dirwest, rhywbeth fel y goets dawel? Y "van of hope" neu rywbeth felly!
Dyw meddwi ddim yn broblem newydd wrth gwrs. Roedd cyfaill i mi, Pete Meazey, oedd arfer rhedeg siop lyfrau Cymraeg yng Nghaerdydd, wrth ei fodd ar ôl darganfod hen bennill am ddau o'i gyndadau yn meddwi'n gocos mewn tafarn ym Mro Morgannwg.
"Yr Hen Bost, un dost wyt ti
Ow, denaist y dynion i feddwi
Gwnest yn dlawd dau frawd o fri
Moses a Richard Meazey."
Tafarn ar yr hen A48 lle'r oedd y goets fawr yn newid ceffylau yw'r Hen Bost. Tybed a alwodd Roger yno ar un o'i gylchdeithiau?
SylwadauAnfon sylw
Nid jest pennill, Vaughan, ond englyn unodl union. Oes mwy tybed?
Dymunol iawn yw gweld lle teilwng i Gerdd Dafod ar dy flog.
Englyn yw hwn, Vaughan!
"Yr Hen Bost, un tost wyt ti - Ow, denaist
Y dynion i feddwi;
Gwnest yn dlawd ddau frawd o fri:
Moses a Richard Meazey."
Sgwn i pwy oedd yr englynwr?
Ai hwn yw'r tro cyntaf i englyn ymddangos ar y blog? Rwyf wedi gwrthsefyll y temtasiwn i gyhoeddi campweithiau Ellis Roberts! Dydw i ddim yn gwybod llawer am darddiad yr englyn. Fe'i canfuwyd ym mhapurau'r Athro Griffith John Williams- heb awgrym o'r awdur na'r cyfnod. Mae'r dafarn (yr "Old Post" erbyn hyn) ar gyrrion Tresimwn.
Tarddiad diddorol i "Tresimwn" cf "Bonvilston" - wedi enwi ar ol yr un boi - Simon de Bonville - yn Gymraeg ar ol ei enw cyntaf ac yn Seasneg ar ol ei enw olaf.