´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Chwi gewch y brofi

Vaughan Roderick | 19:58, Dydd Sul, 14 Mehefin 2009

Ar gyrion Cwmbrân, nid nepell o bencadlys Cyngor Torfaen y mae tafarn y "Green House". Dyna yw'r enw y dyddiau 'ma o leiaf. Os syllwch chi'n ofalus uwchben y drws mae 'na ac arni mae'r geiriau hyn:

Y Ty Gwyrdd
1791
Cwrw da a seidr i chwi
Dewch i mewn chwi gewch y brofi

Nawr dydw i ddim yn meddwl fy mod wedi methu adnabod englyn unodl union y tro hwn ond mae'r rhigwm yn fodd i'n hatgoffa o hanes hir y Gymraeg yn y rhan yma o Went.

Fel mewn rhannau eraill o'r de-ddwyrain mae'r Gymraeg ar gynydd. Mae gan Dorfaen ysgolion cynradd ac ysgol uwchradd Gymraeg. Ar hyn o bryd mae'r cyngor yn gwario miliynau i ail-ddatblygu ac ehangu'r ysgol uwchradd. Fe fyddai'n gwbwl annheg ac anghywir felly i gyhuddo'r cyngor o fod yn wrth Gymraeg mewn unrhyw ffordd o gwbwl. Ar y llaw arall mae angen esboniad gan rywun am ran arall o record y cyngor.

Mae gan y cyngor rhagorol ac fe dderbyniodd sêl bendith y Bwrdd Iaith ar Mehefin 5ed, 2006. Mae'n cynnwys nifer o dargedi i'w cyflawni "yn ystod y tair blynedd nesaf".

Yn 2006 mae'r cyngor yn nodi "mae'n arferol iddo gyhoeddi dogfennau newydd, gwefannau ac ati yn ddwyieithog." Rhwng Mehefin 2006 a Mehefin 2009 mae'r cyngor yn addo "gweithio i sicrhau bod materion Iaith Gymraeg yn rhan hanfodol o bob cynllun e-Lywodraeth a datblygu gwefannau, h.y. cynyddu canran y tudalennau gwe sydd yn Gymraeg, sicrhau dewisiadau Cymraeg ar bob systemau galw, gwasanaethau cyffwrdd sgrin ac ati.".

Gan fod hi'n Fehefin 2009 beth am i ni edrych ar ? Yr unig eiriau Cymraeg ar y dudalen flaen yw "Cyngor Bwrdeistref Torfaen" ac mewn llythrennau bychan ar gornel dop y dudalen "Cymraeg". Iawn, fe allai'r peth fod yn fwy amlwg ond o leiaf mae 'na ddolen i'r fersiwn Gymraeg o'r wefan. Beth am ei dilyn?

Mae na ychydig yn fwy o Gymraeg yn fan hyn. "Rydym wrthi'n creu'r dudalen hon. Mae Cyngor Torfaen wedi ymrwymo i greu gwefan hollol ddwyieithog ac mae'r broses o wneud hyn ar waith. Yn y cyfamser, hoffwn ddiolch i chi am fod mor amyneddgar ac ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra."

Arhoswch eiliad. Onid oedd hi'n "arferol" i'r Cyngor gyhoeddi gwefannau'n ddwyieithog yn ôl yn 2006? Beth am yr addewid yna i "sicrhau dewisiadau Cymraeg" erbyn Mehefin 2009?

Dau gwestiwn arall. Oes 'na unrhyw un yn plismona'r cynlluniau iaith yma ac os nad oes 'na beth yw'r pwynt eu hymestyn i'r sector breifat?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 22:57 ar 14 Mehefin 2009, ysgrifennodd Dafydd Tomos:

    Fe wnes i yn 2007 (roeddwn i'n rhan o ddatblygiad y wefan gwreiddiol).

    Beth sy'n dwp yw fod nhw wedi cael gwared ar wefan ddwyieithog er mwyn datblygu un newydd, heb mewnforio unrhyw gynnwys o'r hen un (yn unrhyw iaith).

  • 2. Am 06:19 ar 15 Mehefin 2009, ysgrifennodd Wil:

    Synnwn i ddim na fydd rhai Cynghorau'n ddigon balch o ddefnyddio'r wasgfa ariannol fel esgus i anghofio am eu darpariaeth yn y Gymraeg. Dim ond y Cynulliad, yn y pen draw, all orfodi'r Cynlluniau Iaith ac mae hyn yn brawf pellach ar allu aelodau'r Blaid i ddangos eu dannedd.

  • 3. Am 16:28 ar 15 Mehefin 2009, ysgrifennodd Alun Tom:

    Ie yr un hen broblem a'r un hen ymateb bob tro! neu fersiwn arall o ....."Rydym wrthi'n creu'r dudalen hon. Mae Cyngor Torfaen wedi ymrwymo ........... Yn y cyfamser, hoffwn ddiolch i chi am fod mor amyneddgar ac ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra."

    Rydyn ni yn lwcus bod botwm "Cymraeg" i weld ar y wefan o gwbwl! Mae Dafydd T yn iawn yn ei flog ac yn gwybod y stori yma yn dda OND os nad oes yna unrhyw un yn y cyngor yn gwthio am gydraddoldeb bob dydd mae popeth yn cael ei sgubo dan y mat. Nid dim ond Torfaen sydd yn y cwch yma...edrychwch ar wefan gwarthus Casnewydd...dwy eisteddfod genedlaethol a'r heip i gyd yn mynd gyda hwnnw a dydy ni y Cymry Cymraeg sydd yn byw yn y de Ddwyrain yn dal i sefyll..........

  • 4. Am 22:30 ar 15 Mehefin 2009, ysgrifennodd Dewi:

    Fy mhryder yw Cwpan Ryder. Wedi bod yng Nhasnewydd heddiw a bron dim Cymraeg ar bosteri yn y ddinas. Wedi sgrifennu i fwrdd yr iaith yn gofyn am y polisi a chael adwaith annerbyniol. Dyma gyfle arbennig i sicrhau clywed yr iaith dros y byd. Rwy'n disgwyl i ACs Plaid Cymru sicrhau lle teilwng a chlywadwy i'r Gymraeg yn 2010.

  • 5. Am 12:52 ar 16 Mehefin 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Sori bod y sylw yma'n hwyr yn ymddangos. Roeddwn i ffwrdd ddoe

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.