Pleidlais y Sgweier
Mae'r Ceidwadwyr yn mwynhau brolio eu bod wedi "ennill y bleidlais boblogaidd" yng Nghymru yn yr etholiadau Ewropeaidd am "y tro cyntaf ers 1859".
Dydw i ddim yn siŵr ydy'r "bleidlais boblogaidd" yn derm cymwys yn y cyswllt hwn. Yn 1859 fe enillodd y Ceidwadwyr 17 sedd gyda 63.6% o'r "bleidlais boblogaidd". Ond sawl pleidlais oedd hynny? Faint o bobol yn union yng Nghymru benbaladr wnaeth bleidleisio i'r Ceidwadwyr? 2,267! Dwy fil, dau gant, chwedeg a saith! Fe enillodd y Rhyddfrydwyr 15 o seddi ar ôl derbyn cyfanswm o 1,585 pleidlais!
Rwy'n ddiolchgar i Jonathan Morgan am yr ystadegau ac yn cynnig yr hysbys fach yma i ad-dalu'r ffafr! Heno fe fydd Jonathan yn cyflwyno darlith ar ddyfodol y Ceidwadwyr Cymreig o dan nawdd Canolfan Llywodraethu Cymru. Mae'r ddarlith yn siambr yr hen Neuadd Sir (adeilad Morgannwg) ym Mharc Cathays am saith o'r gloch.
SylwadauAnfon sylw
Vaughan. Off topic ychydig, ond gyda'r Toriaid yn debygol o ennill yr Etholiad Gyffredinol nesaf, beth sy'n digwydd i seddi'r Cynulliad o dorri ar seddi Cymru yn San Steffan? Unrhyw syniadau?
1, 585 pleidlais am 7 sedd ?
Mae Kirsty Williams yn seilio ei optimistiaeth am Geredigion ar hyn, mae'n siwr !
A buasai pob un o'r 1585 wedi ysgrifennu llai o lol na Lembit Opik
Dim byd, rwy'n tybio. Mae nifer seddi'r Alban yn San Steffan wedi ei chwtogi heb effeithio ar senedd Caeredin. Mae'n golygu bod nifer a ffiniau'r etholaethau'n wahanol i'r ddwy senedd.