Sibrydion (2)
Rwyf am newid y broffwydoliaeth ynghylch y bedwaredd sedd gan roi UKIP yn ol yn y ffram. Mae'r blaid honno wedi gwneud yn well na'r disgwyl mewn etholaethau Llafur.
Mae Llafur yn colli pob sedd yng Nghaerdydd ac yn gwneud yn ofnadwy yn y Gogledd Ddwyrain. Ar y llaw arall mae Llafur ar y blaen i Blaid Cymru mewn llefydd fel Castell Nedd Port Talbot a Chaerffili. Y Ceidwadwyr ar y brig, Llafur yn ail, PC yn drydydd a'r bedwaredd sedd i UKIP? Mae'n gynnar ond mae hynny'n bosib. Gyda llaw mae'r Ceidwadwyr ac UKIP ar y blaen i'r Democratiaid Rhyddfrydol ym Maldwyn.
Diweddariad; Dyw gwrthryfel Paul Flynn wedi ddim wedi dwyn ffrwyth. Mae'r Ceidwadwyr ar y blaen yng Ngorllewin Casnewydd.
SylwadauAnfon sylw
Dwi'n gobeithio am 2 sedd i Blaid Cymru ond mae nhw wedi rhedeg ymgrych ofnadwy o wan.
Darllediad gwleidyddol oedd yn dripping wet - dim polisi, jyst fotiwch i ni achos ein bod yn neis.
Dim son am swyddi heblaw cliches asgell chwith, dim son am weithwyr tramor er fod pawb ar lawr gwlad yn son am y peth. Dim posteri na phlacardiau ar y strydoedd na'r cloddiau, wedi methu'n llwyr i greu unrhyw agenda Gymreig i'r holl drafodaethau.
Mae Ewrop gyfan er gwell neu gwaeth yn troi'n fwy ceidwadol/asgell dde ac mae Plaid Cymru'n ceisio apelio at clique o ddarllenwyr Guardian ac heddychwyr - grwp syfrdannol o fychan o'r etholaeth.
Gyda Llafur ar ei chefn roedd hon yn gyfle euraidd i'r Blaid gael 2 sedd ond dwi ddim yn hyderus eu bod am wneud. Mae wir angen edrych ar beth yn union yw neges y Blaid.
Mae 'na reswm pam fod pobl yn pleidleisio UKIP ac er mai nad dyna yw etholaeth naturiol Plaid, mae angen gwrando ar y pryderon yno a gweld os oes gan Blaid CYmru unrhyw beth i gynnig i'r etholwyr hynny heblaw eu nawddogi.
Cawn weld.