Telyn berseiniol fy ngwlad
Fe fydd un o bwyllgorau deddfwriaeth y cynulliad yn cyhoeddi adroddiad ar yr LCO iaith ymhen ychydig ddyddiau a rhyngoch chi a fi dyw nhw ddim yn hapus ynghylch y peth. Y tebygrwydd yw y bydd y pwyllgor yn galw am orchymyn sy'n llawer mwy cynhwysfawr.
Mae'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig hefyd yn ystyried yr LCO ar hyn o bryd. Yn groes i ddisgwyliadau rhai (gweinidogion Swyddfa Cymru yn bennaf) mae'n ymddangos y bydd y pwyllgor hwnnw hefyd yn cefnogi'r egwyddor y dylai'r cynulliad gael hawliau deddfu llawn ynghylch materion ieithyddol.
Ar ôl i'r ddau bwyllgor gyhoeddi eu hadroddiadau cynhelir trafodaethau pellach rhwng Llywodraeth y Cynulliad a Swyddfa Cymru cyn i'r gorchymyn gael ei osod gerbron y Cynulliad a'r Senedd.
Cyfaddawd rhwng llywodraeth y Bae a Swyddfa Cymru yw'r LCO ar ei ffurf bresennol. Roedd llywodraeth y Cynulliad wedi dymuno mynd llawer yn bellach. Os ydy'r ddau bwyllgor yn cefnogi'r deisyfiad hwnnw a fydd gweinidogion Swyddfa Cymru yn fodlon gwrando neu ai ei safbwyntiau personol fydd yn cyfri?