´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Yn fy marn fach i...

Vaughan Roderick | 18:11, Dydd Mawrth, 16 Mehefin 2009

Yn ôl y chwedegau a'r saithdegau roedd 'na ddau gylchgrawn oedd yn "ddarllen gorfodol" i bawb oedd yn ymddiddori mewn gwleidyddiaeth Gymreig sef "Planet" Ned Thomas a "Barn" Alwyn D. Rees. Roedd cylchgronau eraill yn blaguro'n achlysurol "Welsh Radical" gan y blaid Lafur, er enghraifft neu "Radical Wales" a'r "Saeth" gan Blaid Cymru ond Planet a Barn oedd y rhai oedd yn gosod yr agenda.

Mae'r ddau gylchgrawn yma o hyd ac yn ddiweddar mae Barn yn arbennig wedi dechrau ail-sefydlu ei hun fel "must-read" gwleidyddiaeth Cymru.

Nid beirniadu Seimon Brookes, Dyfrig Jones nac unrhyw olygydd arall ydw i drwy ddweud hynny. Rwy'n gwybod yn iawn pa mor galed y maen nhw i gyd wedi gweithio o dan amodau anodd a chyda adnoddau prin. Serch hynny mae hi fel pe bai chwa o awyr iach wedi chwythu trwy'r cylchgrawn ers i'r Cyngor Llyfrau wahodd y Lolfa i gystadlu am y drwydded ar gyfer cylchgrawn materion cyfoes. Fe fydd yn rhaid i fois Talybont weithio'n galed iawn i gynhyrchu rhywbeth gwell. Mae cystadleuaeth yn beth da!

Os ydych chi'n un o rheiny sy ddim wedi darllen Barn ers blynyddoedd, rhowch ail gyfle iddi. Gyda rhestr cyfranwyr sy'n darllen fel "Pwy di Pwy" o lenorion a sylwebyddion gorau Cymru mae'n werth gwneud!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 03:58 ar 17 Mehefin 2009, ysgrifennodd Carwyn Edwards:

    Rhyfedd iawn wnes i darllen erthyglau gan yr Barn am y tro gyntaf ers blynyddoedd noson o blaen, diolch i darn amdanynt yn blog Chris Cope. Mae erthygl am ffarwell Rhodri Morgan yn enwedig yn gwneud i chi meddwl!!!!

    Dal ati pawb nol adref i ail tanio trafodaethau bywiog!!!!Anffodus prin fod yr 60 yn y cynulliad yn gallu tanio matsien!!!

  • 2. Am 10:01 ar 17 Mehefin 2009, ysgrifennodd Dyfrig:

    Cytuno yn llwyr bod y cylchgrawn yn mynd trwy gyfnod arbennig o gryf ar y funud. Gobeithio bod y Cyngor Llyfrau yn darllen y blog.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.