´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Ambell i Oracl

Vaughan Roderick | 15:31, Dydd Mercher, 16 Medi 2009

FT.jpgFe wnes i ambell i broffwydoliaeth ynghylch yr Etholiad yng Nghymru mewn post Ddydd Llun. Mae'n ymddangos bod y firws wedi cydio gydag eraill yn ymuno yn y sbri.

Mae proffwydoliaethau Betsan yn fan hyn a rhai Martin Kettle o'r Guardian wedi eu cynnwys yn ei erthygl "".

Mae seffolegwyr hefyd wedi dweud eu dweud ar ol craffu ar ganlyniadau arolygon barn ac etholiadau diweddar. Yn adran "sedd wrth sedd" y gwefan mae'r safle'n darogan y canlyniad yma.

Llafur; 20
Ceidwadwyr;12
Plaid Cymru; 5
Dem.Rhydd. 2
Annibynol; 1

Fe fyddai'r canlyniad yna yn hanesyddol o wael i'w Lafur ond mae 'na waith i ddod. Dyw'r gwefan ddim wedi didoli'r seddi unigol eto ond dyma'r broffwydoliaeth ddiweddaraf yn seiliedig ar arwg barn YouGov.

Llafur; 14
Ceidwadwyr;18
Plaid Cymru; 5
Dem.Rhydd. 2
Annibynol; 1

Fedra i ddim meddwl am unrhyw adeg yn fy mywyd pan na fyswn wedi chwerthin ar ben y fath broffwydoliaeth. Ac eithio nawr, hynny yw.

Yn y cyfamser dal i gysgu ar y cledrau mae Llafur y Cynulliad gan boeni'n fwy am "enwebiadau Huw" a "gwendid Edwina ymhlith aelodau seneddol" na'r trychineb posib sydd o'u blaenau.

A fydd y ras i olynu Rhodri yn fater o ddeuddyn moel yn ymgiprys am grib?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 22:46 ar 16 Medi 2009, ysgrifennodd Emyr:

    Dwi'n jynci am y math yma o gau-broffwydo, ond mae'n werth nodi'r geiriau isod gan un o'r rhai fu'n gwneud sylwadau ar wefan y Guardian am erthygl martin Kettle:

    "having looked at the Electoral Calculus site, this prediction is NOT based on a Welsh poll, but extrapolates UK wide data to Wales. Such polls have a long and distinguished history of being farcically inaccurate. Looking at the data, EC have not even attempted to predict a Plaid share of the vote due to insufficient data, and have instead said that they will get exactly the same as in 2005!"

    Ydi o'n iawn?


  • 2. Am 23:08 ar 16 Medi 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Mae 'na nifer o bethau'n mynd ymlaen yn fan hyn. Fe wnes i gynnwys y ddwy broffwydoliaeth gan EC oherwydd hynny. Fe nealltwriaeth i yw bod y broffwydoliaeth "sedd wrth sedd" yn ystyrlon ac mai "snapshot" yw'r llall. Mae proffwydo pleidlais Plaid Cymru yn rhyfeddol o anodd oherwydd ddiffyg data.

    Fe wna i gyfaddefiad yn fan hyn. Ers degawd a mwy rwyf i ac eraill wedi bod yn curo'n pennau yn erbyn wal frics i geisio cael y ´óÏó´«Ã½ i gynnal arolygon barn ynghylch bwriadau pleidleisio yng Nghymru. Oni ddylai'r ddarlledwr cyhoeddus wneud yn iawn am fethiant y farchnad i ddarparu arolygon Cymreig?

    "Wrth gwrs" yw'r ateb amlwg a syml yn fy marn i ac eraill o fy nghydweithwyr.

    Nid yng nghoridorau ´óÏó´«Ã½ Cymru mae'r broblem. Ers i Newsnight wneud arolwg dodji mewn is-etholiad mae'r ´óÏó´«Ã½ wedi ein gwahardd rhag comisiynu arolygon ynghylch bwriadau pleidleisio. Mae effaith y penderfyniad hwnnw yng Nghymru wedi bod yn ddifrifol wael i newyddiaduraeth a'r lles cyhoeddus yn fy marn, llwyr bersonol, i.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.