Erfyn ar Elfyn
Clod lle mae'n ddyledus! Mae gan Golwg360 wedi ei seilio ar eitem yn y cylchgrawn. Dyma mae'n awgrymu ;
"Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan yw'r diweddara' i ddweud ei fod am geisio bod yn Aelod Cynulliad. Mae Elfyn Llwyd wedi dweud wrth gylchgrawn Golwg "nad ydi hi ddim yn amhosib" y bydd yng Nghaerdydd cyn hir - "o fewn dwy neu dair blynedd"
Beth mae hynny'n ei olygu, tybed? Ydy Elfyn a'i lygaid ar Ddwyfor-Meirionnydd? Os felly beth am Dafydd Elis Thomas? Mae Llais Gwynedd am ddewis ymgeisydd ar gyfer yr etholaeth yn ystod yr wythnosau nesaf. Gwilym Euros yw'r dewis amlwg, byswn i'n tybio, ond a fyddai'r grŵp hwnnw yn sefyll yn erbyn Elfyn? Wedi'r cyfan doedd e ddim yn un o ffans mwyaf Cyngor Gwynedd yn ystod yr helynt ysgolion.
Gallai Elfyn wrth gwrs anelu am sedd ar restr y Gogledd. Rwyf wedi nodi o'r blaen nad oes sicrwydd y bydd Plaid Cymru yn ennill sedd restr yn y rhanbarth honno yn 2011. Ar y llaw does gan Elfyn ddim byd i golli.
Lot o gwestiynau felly. Fe wnawn ni geisio taflu mwy o oleuni ar bethau yfory! Diddorol. Da iawn, Golwg.
SylwadauAnfon sylw
Trefnodd Barn sesiwn holi yn yr Eisteddfod, rhwng Vaughan Hughes ac Elfyn Llwyd - ac fe soniodd Elfyn am symyd i Gaerdydd bryd hynny. Gresyn na fyddai John Stevenson wedi bod yn gwrando yn fwy astud bryd hynny, neu efallai byddai'r ´óÏó´«Ã½ wedi "sgwpio" Golwg.
Dyna ydi peltan!!!