´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Gosgorddion ei lywodraeth gref

Vaughan Roderick | 09:14, Dydd Iau, 17 Medi 2009

civil.jpgPan oeddwn i'n grwt ysgol roedd y ffordd yr oedd hanes yn cael ei ddysgu yn hen ffasiwn a dweud y lleiaf. Doedd na fawr o sôn am fywydau pobol gyffredin ac yn sicr dim sôn am fenywod, ac eithrio Elisabeth I a Victoria, hynny yw!

Stori'r "dynion mawr" oedd hanes, stori am ryfeloedd, dyfeisiadau ac yn anad dim yr ymgiprys rhwng y Senedd a'r Goron. Y frwydr rhwng palasau San Steffan a Whitehall, rhwng "plaid y brenin" a "phlaid y senedd", oedd y peiriant wnaeth arwain at holl gynnydd yr hil ddynol. Dyna oedd y gwerslyfrau'n dweud, o leiaf!

Mae 'na rywbeth tebyg wedi datblygu dros y degawd diwethaf gydag ymddangosiad rhyw fath o egin bleidiau seneddol a chynulliadol. Mae pa "blaid" yr ydych yn perthyn iddi yn dibynnu i raddau helaeth ar le'r ydych chi'n gweithio. Mae pobol y Bae yn hoff o frolio am wleidyddiaeth gynhwysfawr y cynulliad ac yn galw'n gyson am gynyddu ei bwerau. Mae bois Llundain (ac mae 32 o'r 40 yn fois) yn amddiffyn eu pwerau a'u breintiau'n ffyrnig gan edrych lawr eu trwynau braidd ar wipyrsnapyrs Caerdydd.

Yn anaml, os o gwbl, y mae'r tensiynau hynny i'w gweld yn rhengoedd Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol a than iddi adennill presenoldeb seneddol yn 2005 doedden nhw ddim yn amlwg yn y Blaid Geidwadol Gymreig chwaeth.

Ffenomen y Blaid Lafur oedd y rhaniad yma tan yr etholiad cyffredinol diwethaf. Roedd y rhaniad fwy neu lai yn gyfartal hefyd gydag oddeutu'r un nifer o aelodau Llafur yn y ddwy siambr. Dyna sy'n gyfrifol am y ffaith mai lobscows o fesur oedd ail Ddeddf Llywodraeth Cymru.

Mae'r ffactorau hyn wedi bod yn sylfaen i holl wleidydda Cymru ers 1997. Nhw sydd wedi creu'r dynamig ac o fewn ychydig fisoedd mae'n bosib iawn y bydd y cyfan yn newid. Os ydy'r Ceidwadwyr yn llwyddo i gipio nifer sylweddol o seddi o Lafur yng Nghymru yn yr etholiad fe fydd gwleidyddiaeth fewnol y ddwy blaid yn newid yn gyfan gwbl ac fe fydd gwleidyddiaeth Cymru yn newid oherwydd hynny.

Ie.jpgGadewch i ni feddwl am Lafur i ddechrau. Yn ystod y gynhadledd arbennig i drafod y glymblaid â Phlaid Cymru mae'n debyg bod Llafurwraig ifanc wedi codi ar ei thraed a phwyntio at y rhes lle'r oedd Neil Kinnock, Paul Murphy a Don Touhig yn eistedd. Gan bwyntio atyn nhw un wrth un fe ddywedodd mewn llais oeraidd "YOU, YOU and YOU! We're not listening to YOU any more!"

Dyna fyddai'r gwir hefyd pe bai'r grŵp Llafur yn y cynulliad yn sylweddol fwy na'r grŵp Llafur Cymreig yn San Steffan ac yn cynnwys yr unig wleidyddion Llafur mewn llywodraeth unrhyw le ym Mhrydain. Fe fyddai'r frwydr hir rhwng "asgell genedlaethol" ac "asgell unoliaethol" y blaid, brwydr sy'n dyddio yn ôl i Keir Hardie, ar ben. Yr asgell genedlaethol fyddai wedi ei hennill. Etifeddion S.O. Jim a Cledwyn fyddai wrth y bwrdd gan adael i ddisgynyddion George, Iori a Neil gasglu'r gwydrau!

na2.jpgAr y dde mae'n bosib y byddai'r gwrthwyneb yn digwydd. Pe bai'r nifer o Geidwadwyr o Gymru yn San Steffan yn sylweddol fwy na'r nifer yn y Bae mae'n anorfod bron y byddai'r blaid yn cefnu ar eu hymdrechion i gofleidio datganoli a Chymreigio ei hun. O fewn byr o dro fe fyddai Nick Bourne a gweddill Ceidwadwyr y Cynulliad yn ffigyrau ymylol iawn o fewn y blaid.

Dydw i ddim yn amau didwylledd pobol fel Alun Cairns, Guto Bebb a Jonathan Evans ond ar ôl llwyddiant etholiadol rwy'n amau y byddai trwch aelodaeth y blaid yn ddigon parod, yn awyddus bron, i ail-afael yn eu safbwyntiau ac agweddau traddodiadol.

O dan y fath amgylchiadau mae hi bron yn amhosib dychmygu clymblaid rhwng Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr. Fe fyddai'r Torïaid yn ôl yn eu "comfort zone" tra bod pleidiau'r chwith yn cystadlu i wisgo'r fantell genedlaethol. Mae hynny'n golygu y byddai'r rhaniad ynghylch y cwestiwn cenedlaethol wedi ei alinio a'r rhaniad chwith/dde. Am y tro cyntaf ers i Ryddfrydwyr y de-ddwyrain ddryllio breuddwydion Cymru Fydd yn 1896 fe fyddai'r hollt yng ngwleidyddiaeth Cymru yn gorwedd rhwng y pleidiau yn hytrach na thrwy ganol un ohonyn nhw.

Rwyf yn poeni am or-ddweud yn fan hyn ond oherwydd hyn oll mae'n bosib iawn bod gan etholiadau 2010 a 2011 y potensial i fod yn etholiadau pwysicaf Cymru ers... wel yr etholiadau pwysicaf erioed, mewn gwirionedd.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 19:27 ar 17 Medi 2009, ysgrifennodd blogmenai:

    Diddorol iawn Mr Roderick - diddorol iawn.

  • 2. Am 03:36 ar 19 Medi 2009, ysgrifennodd Huw Waters:

    Dwi di meddwl hwn fy hun. Gall y Blaid Lafur derbyn dinistr fawr. Os yw'r Ceidwadwyr yn San Steffan a ryw fath o lywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd bydd ffyrnigrwydd yn sicr. Ond beth os yw San Steffan yn gwthio rhai pethe yn erbyn gorchmynion Bae Caerdydd? Ai bai'r Ceidwadwyr yw hwn neu fai'r Blaid Lafur am beidio datganoli mwy o bwerau tra gafodd nhw'r cyfle 1997-2010?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.