Llwyfan Gwag
Mae 'na erthygl ddiddorol iawn draw ar ynghylch moderneiddio adeiladau'r celfyddydau yng Nghymru ond mae'n cynnwys gythraul o "non-sequitur".
Mae'r erthygl yn cynnig tair enghraifft o'r broses o foderneiddio sef cynlluniau a yng Nghaerdydd a Theatr Gwynedd ym Mangor.
Mae'r erthygl yn dweud hyn am y cynlluniau ym Mangor. "The plans would, according to the university, improve arts facilities for the whole community and include a theatre, lecture theatres, exhibition spaces, bar and cafe." Sylwch ar y gair "would". Mae brics a morter i'w gweld yng Nghaerdydd dim ond addewidion a geiriau sy 'na ym Mangor.
Fel mae'n digwydd roeddwn i'n aelod o fwrdd rheoli Chapter am flynyddoedd yn ystod yr union gyfnod y paratowyd y cynlluniau i'w hail ddatblygu. Reit ar gychwyn y broses cytunwyd ar rai egwyddorion sylfaenol. Yn eu plith roedd rhain;
1. Ni fyddai'r gwaith yn dechrau cyn i'r adnoddau angenrheidiol gael eu sicrhau.
2. Ni fyddai'r ganolfan yn cau am unrhyw gyfnod sylweddol o amser.
3. Fe fyddai unrhyw rhaglenni celfyddydol nad oeddynt yng gallu cael eu cynnal yn y ganolfan yn ystod yr ail-ddatblygu yn cael eu hadleoli i lefydd eraill yn y brifddinas.
Fe fydd y Chapter "newydd" yn agor yfory ar ôl deunaw mis o waith adeiladau. Mae cyfanswm y dyddiau pan yr oedd y ganolfan gyfan ar gau yn llai nac wythnos.
Mae cynlluniau Sherman Cymru yn adlewyrchu'r un egwyddorion er y bydd yr adeilad yn cau am gyfnod penodedig. Mae'r sefyllfa'n cael ei esbonio ar wefan y Theatr.
"Bydd y drysau'n cau ar adeilad presennol y Sherman ym mis Ionawr 2010 ar gyfer y cyfnod adnewyddu, yn dilyn cynhyrchiad Nadolig y Sherman yn 2009, sef A Christmas Carol. Bydd Sherman Cymru yn symud i swyddfeydd dros dro yng Nghaerdydd ac yn parhau i gynhyrchu a theithio gwaith theatrig ledled y DU, a hefyd yn parhau â'r gwaith Dysg ac Ymgysylltu."
Barn bwrdd Chapter a bwrdd Sherman Cymru oedd y byddai cwtogi ar raglenni'r naill theatr neu'r llall yn ystod y broses ail-adeiladu yn beth cyfan gwbwl annerbyniol a hurt. Fe fyddai'n cymryd blynyddoedd i ailadeiladu cynulleidfaoedd a hynny, cofiwch, mewn ddinas lle mae 'na hen ddigon o ganolfannau celfyddydol eraill.
Yn y cyfamser mae Theatr Gwynedd, yr unig theatr ym Mangor a'r theatr bwysicaf yng Ngogledd Orllewin Cymru yn dal i bydru. Dim ond nawr, bron i flwyddyn ar ôl i'r Theatr gau, y mae rhaglen gelfyddydol i Fangor wedi cael ei chyhoeddi.
Hyd yn oed os oedd 'na rhyw rheswm dros gau'r adeilad heb yn gyntaf sicrhau'r arian ar gyfer ail-ddatblygu pam ar y ddaear y cafodd y rhaglen ei dileu a'r gwefan ei gau? Mae'n ymddangos bod Cyngor y Celfyddydau yn talu i ddiogelu enw'r . Pam beidio cynnwys dolenni i Galeri, Venue Cymru, Theatr Clwyd ac eraill felly? Yn lle hynny ceir hyn;
"Mae Theatr Gwynedd wedi cau am byth, os am fanylion am weithgareddau celfyddydol yn yr ardal cysylltwch â Cyngor Celfyddydau Cymru: 01492 533440 / e-bost gogledd@celfcymru.org.uk"
Mae'n cymryd degawdau i feithrin cynulleidfaoedd ar gyfer y celfyddydau byw. Oni ddylid gwneud rhyw ymdrech i ddiogelu cynulleidfa Theatr Gwynedd ar gyfer y dyfodol? Ydy hynny'n ormod i ddisgwyl?
Mae pobol wedi ceisio esbonio'r sefyllfa i mi ond, sori, dydw i ddim yn credu bod problemau Theatr Gwynedd yn waeth na'r rhai oedd yn wynebu Chapter na'r Sherman. Yr unig wahaniaeth, hyd y gwelaf i, oedd diffyg ewyllys ym Mangor a'r awydd gan rai i gael gythraul o gaffi!
Sori eto, ond i fi mae diffyg Theatr ar Ffordd Deiniol yn fwy o broblem na diffyg "Starbucks" yn y Theatr honno!
SylwadauAnfon sylw
Diolch am drafod ffawd trist Theatr Gwynedd.
I'r rhai ohonom sy'n cofio yn ol i'r addeiwidion a roddwyd pan gynlluniwyd y safle'n wreiddiol mae'r sefyllfa bresennol yn gywilydd o'r mwyaf. Er bod yna rai wedi paratoi deiseb er mwyn ceisio'i chadw ar agor, cau oedd raid - a'r darparieth bresennol? Bws draw i Theatr Harlech os am weld cynhyrchiad gyfredol Theatr Genedlaethol Cymru.
Bangor: tre'/dinas prifysgol heb theatr na sinema!
Mae sefyllfa Theatr Gwynedd yn chwerthinllyd; diolch am dynnu sylw ato. Hyd y deallaf, bwriedir dymchwel y Theatr ar y cyd ag undeb myfyrwyr y brifysgol er mwyn codi adeilad BENDIGEDIG newydd darparu'r cwbl lot ar gyfer pawb yn hapus braf. Ond yn anochel braidd mae rhywbeth wedi mynd o'i le braidd. Dw i wir methu deall pam y bwlch anferth rhwng cau'r adeilad a dechrau ar y cynllun newydd, beth bynnag ddiawl fydd hwnnw yn y pen draw.
Mae ThG yn hynod bwysig, nid yn unig oherwydd mai dyna oedd theatr fwyaf gogledd orllewin Cymru o bell ffordd ond hefyd gan fod adran ddrama Prifysgol Bangor yn ei defnyddio er mwyn ymarfer ac er mwyn paratoi gwaith eu hunain. Mae'r golled yn anferthol.
Mae'n siwr gen i ei fod wedi golygu mwy o sioeau i Galeri yng Nghaernarfon, ond mewn difri calon mae Bangor yn ddinas Prifysgol - "Dinas Dysg" yn ôl yr arwyddion ffordd - ac mae'n chwerthinllyd nad oes darpariaeth gall ar gyfer y celfyddydau yno.
Roedd Theatr Gwynedd yn adeilad hyll, mae'n rhaid cyfaddef hynny. Welais i erioed gasgliad mor ddi-nod o frics. Bocs mawr brown (llawn asbestos). Nid oes amheuaeth bod angen theatr newydd yn yr adeilad, ar fyrder. Ond nid oes amheuaeth chwaith bod smonach wedi'i wneud o'r holl beth.
Dydw i ddim yn sicr fy mod yn cytuno bod yr adeilad yn hyll. Mae'n enghraifft nodweddiadol iawn o'r egwyddor y dylai ffurf dilyn pwrpas oedd yn ffasiynol iawn yn ystod y chwedegau a'r saithdegau. Yn sicr mae'n adeilad yn un nad yw'n gweddu a chwaith ein canrif ni. Dyw hynny ddim o reidrwydd yn golygu nad oes na werth pensaernïol iddi.