´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rialtwch

Vaughan Roderick | 11:30, Dydd Sul, 18 Hydref 2009

_42302244_burton1977_416_bbc.jpgFe ddigwyddodd rywbeth rhyfedd gyda "Rialtwch" wythnos ddiwethaf.

Fe wnes i gynnwys dolen i gyfweliad hanner awr gyda Richard Burton. Roedd y peth wedi bod ar safle'r "New York Times" am rai misoedd. Cwpwl o ddyddiau wedyn wnaeth y ymddangos yn y "Western Mail"

"FORGOTTEN footage of Richard Burton has been unearthed on the 25th anniversary of his death, showing the screen legend revealing a wealth of behind-the-scenes Hollywood tittle-tattle."

Dydw i ddim yn beirniadu'r papur. Rwy'n cicio fy hun na wnes i feddwl wneud mwy am y peth fy hun! Serch hynny, fe fyddai "credit" neu "hat-tip" i "Obell" wnaeth dynnu fy sylw at y cyfweliad wedi bod yn neis! Ta beth dyma Richard Burton yn canu (neu'n siarad) y gân wnaeth roi enw ar gyfnod yng ngwleidyddiaeth America.

Nid fi yw'r newyddiadurwr cyntaf i fethu troi ceiniog o stori ynghylch Richard Burton, gyda llaw. Am flynyddoedd Ceri Garnon oedd hunan-liwtiwr Cymraeg y ´óÏó´«Ã½ yn Abertawe. Roedd Ceri yn weinidog a chan wisgo'r het yna fe wnaeth dorri'r newydd am farwolaeth Richard Burton i'r teulu ym Mhont-rhyd-y-fen. Fe fyddai Ceri wedi gallu gwneud ffortiwn trwy werthu'r stori ond fe wnaeth e ddewis peidio gwneud. Fe ddylai rhyw un adrodd y stori yna wrth !

Mae gweddill ffilmiau'r wythnos hon hefyd yn awgrymiadau gan Obell. Dyma ddarllediad rhyfedd iawn gan y Ceidwadwyr. Ydy William Hague yn troi mewn i Winston Churchill?

Ydy chi'n cofio'r dyddiau pan doedd bron dim byd ond hwn i weld ar setiau teledu ym Mhen LlÅ·n...

...nes i hwn gyrraedd?


SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 14:52 ar 19 Hydref 2009, ysgrifennodd Dafydd Tomos:

    Mae Dick Cavett wedi bod yn postio o'i gyfweliadau gyda Burton ers mis Gorffennaf. Mae nhw'n gyfweliadau gwych wrth gwrs, a llawer mwy deallus a threiddgar na 'Parky' 'fyd.

    Wrth gwrs mae hwn yn esgus i unrhyw newyddiadurwr diog i 'ddarganfod' y peth dro ar ôl tro. Wnaeth y Mule hyn gynta ym mis Awst.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.