Adda'n gadael Eden
I'r rheiny oedd yn credu mai rhyw storom fach wedi ei heipio gan newyddiadurwyr oedd y ffrae rhwng pleidiau'r glymblaid yr wythnos hon fe ddylai geiriau fod yn ddigon i brofi nad stori greu oedd hon. Dyma oedd ganddo i ddweud;
"Fi'n credu daeth hi'n agos iawn at ddiwedd y glymblaid yma. Mae hynny'n ddigon clir ac mae 'na niwed wedi bod i'n hymddiriedaeth ni yn arweinyddiaeth y Blaid Lafur"
Roedd yr hyn ddywedodd Adam nesaf hyd yn oed yn fwy diddorol;
"Nid Plaid Cymru fyddai wedi aros yn wrthblaid (pe bai'r glymblaid wedi ei thorri) ond y Blaid Lafur. Dw i ddim yn credu mai Plaid Cymru fyddai'r wrthblaid ond Llafur"
Nawr os oes 'na un person oedd yn fwy cyfrifol na neb arall am y ffaith mai clymbleidio a Llafur wnaeth Plaid Cymru yn hytrach na gyda'r Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol Adam Price yw hwnnw. Mae'n werth ystyried ei eiriau'n ofalus felly.
Y pwynt oedd Adam yn gwneud, dwi'n meddwl, oedd hwn. Roedd y ffrae yn digwydd ar drothwy ymddeoliad y Prif Weinidog presennol. Ar ôl i Lafur ddewis ei harweinydd newydd fe fydd yn rhaid iddo fe neu hi wynebu etholiad yn y Cynulliad er mwyn cymryd awenau'r llywodraeth.
Yr awgrym cryf gan Adam oedd y byddai Plaid Cymru, pe bai'r glymblaid wedi chwalu, wedi enwebu Ieuan fel Prif Weinidog gan wahodd y gwrthbleidiau i'w gefnogi.
Dydw i ddim yn credu y byddai'r Torïaid na'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cael eu temtio gan lywodraeth "enfys" ar hyn o bryd. Fyddai hynny ddim yn gwneud synnwyr gwleidyddol ar drothwy etholiad cyffredinol.
Rwy'n gallu dychmygu ar y llaw arall y byddai'r Ceidwadwyr yn arbennig yn cael eu temtio i bleidleisio dros Ieuan fel Prif Weinidog er mwyn clatsio Llafur a niwedio'i morâl ar gychwyn ymgyrch etholiad.
Fe fyddai Carwyn, Edwina neu Huw yn arweinydd yr wrthblaid felly gan adael Ieuan i arwain llywodraeth leiafrifol gyda chefnogaeth union chwarter aelodau'r cynulliad.
Fe fyddai hynny wedi bod yn sbort i wylio!
SylwadauAnfon sylw
Dwnim amdanat ti Vaughan, na neb arall, ond dwi'n meddwl un o'r rhesymau y bu i Lafur droi drosodd mor sydyn oedd oherwydd ei bod wedi dallt yn gyflym iawn y gallai golli ei gafael ar rym. Synnwn i ddim petae ambell un ym Mhlaid Cymru wedi gwneud hynny'n glir iawn iddynt.
Rwy'n amau dy fod yn iawn!